Canllaw i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn awry n weithredol. Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Bydd yn peri i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cysylltiedig.
Cynnal Cymru – Sustain Wales yw’r sefydliad sy’n arwain y maes mewn datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Ein cenhadaeth yw cyflwyno Cymru fel y Genedl Gynaliadwy gyntaf. Mae ffocws cyffredinol Cynnal Cymru ar ddatblygu a hybu cymdeithas gynaliadwy, effeithlon mewn adnoddau ac isel mewn carbon drwy ymgysylltu â mentrau, y trydydd sector a chymunedau. Rydym yn dwyn at ei gilydd sefydliadau cenedlaethol o bob rhan o Gymru i helpu ei gilydd i ddatblygu atebion mwy cynaliadwy a cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru rydym i gyd eisiau byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod er llesiant ar waith.
Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a Ffyrdd o Weithio
Mae’r Ddeddf yn rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith, sy’n dweud wrth sefydliadau sut i fynd ati i wireddu eu dyletswydd o dan y Ddeddf.
Mae gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod rhaid i’r corff weithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau y bodlonir anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.
Mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau, wrth wneud eu penderfyniadau, eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae pum peth y mae angen i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt er mwyn dangos eu bod wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd dilyn y dulliau gweithio hyn yn ein helpu i weithio gyda’n gilydd yn well, i osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol ac i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor rydym yn eu wynebu.
Pam mae angen y gyfraith hon arnom?
Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau yn awr ac yn y dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghyfartaledd iechyd a swyddi a thwf. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd. Er mwyn rhoi ansawdd bywyd da i’n plant a’n hwyrion, mae angen i ni feddwl am sut y bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn effeithio arnynt. Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus yn gwneud hyn.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr angen am y gyfraith hon, gweler y tudalennau ar yr Achos dros Newid.
Rhagor o wybodaeth
I gael crynodeb o’r Ddeddf, gweler copi o’r llyfryn ‘Yr Hanfodion’.
Mae Cynghori Cynnal yn darparu hyfforddiant bwrpasol ar y weithred yn ein ‘Dosbarth Meistr ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol’ – [master class act future generations]
Gallwch ddysgu mwy am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar Wefan Llywodraeth Cymru.