Living Wage for Wales

Byddwch yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol!

Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn fudiad annibynnol sy’n cynnwys busnesau, mudiadau a phobl sy’n credu bod diwrnod teg o waith yn haeddu diwrnod teg o dâl. Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei gyfrifo’n annibynnol yn flynyddol yn ôl yr hyn sydd ei angen ar gyflogai a’u teuluoedd i fyw. Gall cyflogwyr wneud y dewis, o’u gwirfodd, i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mae mudiadau sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi cofnodi gwelliannau sylweddol o ran ansawdd gwaith, lleihad yn absenoldeb a throsiant eu staff, a chryfach enw da corfforaethol.

£9.30 yw’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws y DU, a £10.75 yr awr yn Llundain. Mae dros 5000 o Gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws y DU, gyda 224 o gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru.

Ymunwch â charfan o fudiadau mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynnwys:

Capital Law, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru CGGC, Prifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Brecon Carreg, Gyrfaoedd Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd. Gallwch weld rhestr gyflawn o’r mudiadau achrededig ar y wefan Living Wage Foundation.

Maen nhw’n ymuno â chyflogwyr ar draws y DU, yn amrywio o gwmnioedd y FTSE 100 megis  HSBC, Unilever a KPMG, i fusnesau bach annibynnol sydd wedi dewis mynd ymhellach na thalu isafswm cyflog y llywodraeth, er mwyn sicrhau bod eu holl staff a chontractwyr safle yn ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol, cyflog sy’n diwallu gwir gostau byw.

Bod yn Achrededig

Mae Achredu yn broses syml ac uniongyrchol. Gallwch gofrestru arlein drwy wefan y Living Wage Foundation.

Y cyfan sydd rhaid ichi wneud yw talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’ch staff cyflogedig a gyflogir yn uniongyrchol, a sydd dros 18 oed, ac hefyd i’w dalu i unrhyw weithwyr a is-gontractir megis, er enghraifft, glanhawyr sy’n gweithio’n reolaidd ar y safle am 2 awr y dydd dros gyfnod o 8 wythnos. Am wybodaeth bellach ynghylch meini prawf achredu darllenwch y FAQs.

Mae cost ynghlwm wrth fod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ac mae hyn yn amrywio yn ôl maint y mudiad; codir tâl o £50 y flwyddyn ar fudiadau sydd â llai na 10 o gyflogai. Efallai y bydd mudiadau a leolir yng Nghaerdydd yn gymwys i wneud cais i’r cynllun cefnogi achredu a ddarperir gan Gyngor Caerdydd.

Mae talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn hanfodol os ‘rydym am ddatblygu economi gynaliadwy yng Nghymru, a datblygu gweledigaeth Cynnal Cymru i wneud Cymru yn wlad gynaliadwy. Mae Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda chyflogai newydd ledled Cymru i weithredu Cyflog Byw yn eu busnesau.

Cyllidwyr Cyfeillgar

Hefyd, ni yw corff achredu y Living Wage Funders (Cyllidwyr Cyflog Byw) yng Nghymru.

Cynllun yw hwn lle y mae’r cyllidwyr yn defnyddio eu pwerau fel rhoddwyr grant i fynd i’r afael â chyflogau isel yn y sector elusen.

Fel arall, gallwch gysylltu â Lois neu archwilio’r ddau gyllidwr arall yng Nghymru, sef Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (Building Communities Trust).

Cynnal Cymru yw’r corff achredu Cyflog Byw yng Nghymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyflogwr cyflog byw, cysylltwch â Lois ar 02920 431746 os gwelwch yn dda.

Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan Living Wage.