
Cyfle Swydd | Oxfam Cymru
Rheolwr Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth
Mae Oxfam yn fudiad byd-eang o bobl sy’n cydweithio i roi diwedd ar anghyfiawnder tlodi. Mae hyn yn golygu ein bod yn mynd i’r afael â’r anghyfiawnder sy’n cadw pobl yn dlawd. Gyda’n gilydd, rydym yn achub, yn amddiffyn ac yn adfer bywydau. Pan fydd trychineb yn taro, rydym yn helpu pobl i adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain, ac i eraill. Rydym yn brwydro materion megis hawliau tir, newid yn yr hinsawdd a gwahaniaethu yn erbyn menywod. Ac ni fyddwn yn gorffwys hyd nes bod pawb ar y blaned yn gallu mwynhau bywyd heb dlodi.
Rydym yn gonffederasiwn rhyngwladol o 20 o sefydliadau (cysylltiedigion) sy’n cydweithio â phartneriaid a chymunedau lleol ym maes dyngarwch, datblygu ac ymgyrchu, a hynny mewn dros 90 o wledydd.
Mae ein holl waith yn seiliedig ar dri gwerth craidd: Grymuso, Atebolrwydd, Cynnwys Pobl. I ddarllen rhagor am ein gwerthoedd, cliciwch yma.
Y rôl
Yn rhinwedd eich swydd fel Rheolwr Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth, byddwch yn arwain y gwaith o gynllunio, cyflawno a monitro ymgyrchoedd ac allbwn eiriolaeth Oxfam yng Nghymru, gan gynnwys cyfathrebu ac ymgysylltu â chefnogwyr, a sicrhau cysondeb o ran amcanion a negeseuon byd-eang ac amcanion a negeseuon y Deyrnas Unedig. Byddwch hefyd yn dirprwyo ar gyfer Pennaeth Oxfam Cymru, yn ôl yr angen.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau arwain cryf sy’n canolbwyntio ar bobl, ynghyd â hanes profedig o sicrhau newid trwy ymgyrchoedd ac eiriolaeth. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth o’r cyd-destun allanol yng Nghymru, yn ogystal â’r gallu i nodi cyfleoedd ar gyfer creu dylanwad gwleidyddol, ynghyd â hanes o gyflawni strategaethau eiriolaeth effeithiol, a hynny trwy arddel barn wleidyddol gadarn.
Gwneud Cais
Os yw hyn yn canu cloch, ac os hoffech ddysgu rhagor am y rôl hon, cyfeiriwch at y wefan am ragor o wybodaeth.