Annog cau gorsaf bŵer ‘amgylcheddol drychinebus’

Annog cau gorsaf bŵer ‘amgylcheddol drychinebus’

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn galw am gau gorsaf bŵer llosgi glo yng Nghymru wedi i’r bygythiad y mae’n ei beri i’r amgylchedd ac i iechyd pobl Cymru gael ei ddatgelu mewn adroddiad newydd [1].

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi cyfrifo bod gorsaf bŵer Aberddawan, ger y Barri ym Mro Morgannwg, yn costio £400 miliwn yn fwy i gymdeithas Cymru bob blwyddyn mewn llygredd amgylcheddol ac iechyd nac unrhyw enillion a geir o ganlyniad i gyflogaeth a chynhyrchu trydan.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gau pob gorsaf bŵer llosgi glo erbyn 2025. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda gweithredwr Aberddawan ynglŷn â’r cau, ac ni fu unrhyw drafodaethau yn y Cabinet ynglŷn â’i chau.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddir heddiw gan Gyfeilion y Ddaear Cymru, yn tynnu sylw at nifer o bryderon ynglŷn â’r orsaf bŵer, yn cynnwys:

Newid hinsawdd: Mae gorsaf Aberddawan yn pwmpio hyd at 8.5 miliwn tunnell fetrig o garbon deuocsid (CO2) yn flynyddol; yn 2013 roedd hi’n gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Byddai parhau gyda’i gweithrediad yn golygu y bydd Cymru bron yn sicr yn methu cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ostyngiad gwerth 40% mewn allyriadau erbyn 2020.

Ocsidau nitrogen: Gorsaf bŵer Aberddawan yw ffynhonnell trydydd fwyaf o ocsidau nitrogen (NOx) gwenwynig yn Ewrop, gydag allyriadau yn llawer uwch na Chyfarwyddebau’r UE. Mae NOx yn grŵp o nwyon gwenwynig a all achosi problemau anadlu ac maent yn niweidiol i iechyd dynol. O ganlyniad i’r allyriadau hyn – sydd wedi mynd dros y terfynau cyfreithiol ers o leiaf 2008 – mae’n destun achos cyfreithiol ar hyn o bryd a ddygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd gerbron Llys Cyfiawnder Ewrop.

Arian Byw: Mae Aberddawan yn allyrrwr mawr o arian byw (Hg) ac yn gyfrifol am 0.6% o allyriadau’r DU. Mae deddfwriaeth Ewropeaidd yn ei gwneud i’n ofynnol i roi terfyn ar ollwng sylweddau peryglus megis arian byw i mewn i ddŵr erbyn 20 Tachwedd 2021. Mae’n anodd gweld sut y bydd Aberddawan yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn.

Dywed Cyfeilion y Ddaear Cymru y dylid cau’r orsaf bŵer llosgi glo, ac y dylai mwy o adnoddau gael eu rhoi i feysydd effeithlonrwydd ynni a phŵer adnewyddadwy.

 

Meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb:

“Aberddawan yw un o’r gorsafoedd pŵer sy’n llygru fwyaf yn y DU. Mae’r nwyon gwenwynig sy’n llifo allan o’i simneiau yn gosod baich anferth ar gymdeithas. Mae’r difrod amgylcheddol a’r effeithiau difrifol ar iechyd yn enfawr – yn arbennig ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau anadlu. Bydd pobl sy’n byw yng nghyfeiriad y gwynt o Aberddawan, yn cynnwys yn y Barri, Caerdydd, Casnewydd a Bryste, yn cael eu harswydo o wybod y gallai eu hiechyd gael ei effeithio’n uniongyrchol gan y mygdarth sy’n cael ei chwydu allan o’r orsaf bŵer hon. Mae’r orsaf pŵer amgylcheddol drychinebus hon yn gwneud cyfraniad mawr i effaith Cymru ar newid hinsawdd. Byddai parhau gyda’i gweithrediad yn golygu y bydd Cymru bron yn sicr yn methu cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ostyngiad gwerth 40% mewn allyriadau erbyn 2020. Mae gorsaf bŵer Aberddawan wedi ei dwyn gerbron Llys Cyfiawnder Ewrop am iddi wrthod bodloni’r terfynau o ran llygredd. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru weithredu a rhoi pwysau ar San Steffan i’w chau. Am bob blwyddyn y bydd y gwaith pŵer budr hwn yn parhau i weithredu gwneir difrod gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd i bobl Cymru ac i’n hamgylchedd.”

[1]. https://www.foe.co.uk/sites/default/files/downloads/aberthaw-report-99801.pdf