»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Beth yw datblygiad cynaliadwy?

Mae’n ymwneud â’r amgylchedd, on’d yw e?

Mae gwarchod ein hamgylchedd yn rhan bwysig iawn o ddatblygiad cynaliadwy, ond nid dyma’r darlun cyfan. Mae’n un llawer mwy cyflawn ac eang na hyn sydd, i ddweud y gwir, yn effeithio ar bob dim.

Mae’n cael ei gyflawni pan fydd yr economi, y gymdeithas a’r amgylchedd yn datblygu mewn cytgord gan beidio â defnyddio ond yr adnoddau o’r Ddaear y mae modd eu hailosod ac yn hanfodol, wrth sicrhau gallu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un peth.

Sut fedrwn ni wneud hyn?

I’r person yn y stryd, mae byw yn gynaliadwy yn golygu ystyried pob penderfyniad yn ein bywyd i sicrhau nad ydym yn defnyddio mwy na sydd ei angen arnom ac ein bod yn parchu lles pobl eraill a’r amgylchedd drwy’r amser.

I lywodraeth, mae datblygiad cynaliadwy yn golygu creu polisïau a gwneud penderfyniadau dros y wlad fydd yn cynnal ein cymunedau, ein safon o fyw ac ein hamgylchedd yn gyfartal, wrth barchu ansawdd bywyd ac amgylchedd gwledydd tramor hefyd.

Y peth pwysig i’w gofio yw nad yw datblygiad cynaliadwy, neu fyw’n gynaliadwy, yn golygu colli allan ar yr hyn rydym wedi dod i arfer â nhw, ond yn hytrach ein bod yn ymddwyn yn fwy meddylgar ac yn llai gwastraffus.

Pam fod angen datblygiad cynaliadwy?

Ffaith: Pe bai pawb yn y byd yn byw fel y Cymry, byddai angen tair Daear i’n cartrefi ni i gyd yn ein ffordd bresennol o fyw!

Rydym yn rhedeg mas o le wrth greu fwy o wastraff, yn rhedeg mas o adnoddau naturiol ond yn parhau i ddefnyddio fwyfwy, ac yn gor-dreulio mewn gwledydd cyfoethog lle mae tlodi yn cynyddu mewn mannau eraill.

Mae’n bwysig hefyd ein bod yn feddylgar o faint rydym yn prynu a defnyddio bob dydd, i sicrhau pris teg ar gyfer cynhyrchwyr byd-eang ac hefyd fel bod ein cymunedau a’n diwydiannau ni ein hunain yn ffynnu.

Yn hollbwysig, Mae’n defnydd ni o danwyddau ffosil yn creu cynnydd mewn lefelau o garbon yn yr awyr sydd yn achosi newid hinsawdd fyd-eang ac mae angen i ni ymateb nawr cyn i’r broblem fynd yn rhy fawr i ddelio â hi.

Mae’r atebion yna i ni yn barod, ond mae’n rhaid i ni fod yn barod i gymryd y camau bach fel unigolion, a newidiadau mwy fel trigolion, bydd yn arwain at ddyfodol cynaliadwy.

Sut gall y wefan hon eich helpu?

Os ydych am awgrymiadau o’r hyn gallwch chi ei wneud i fyw’n gynaliadwy mae’r wefan hon yn llawn o Awgrymiadau a Syniadau ymarferol i chi geisio ym mhob agwedd o’ch bywyd.

Os oes gennych gwestiwn, ewch at ein adran Cwestiynau Cyffredinol, os na gewch chi eich ateb yna danfonwch eich cwestiwn atom ni.

Gallwch chi hefyd Chwilio am gannoedd o fudiadau a busnesau sy’n chwarae eu rhan i hybu datblygiad cynaliadwy yng Nghymru. Mae yna rhai gallwch fynd atynt am gyngor neu wybodaeth a rhai gallwch fynd atynt am gymorth ymarferol a nwyddau.

Os hoffech chi wybod mwy am ddatblygiad cynaliadwy ewch i’n tudalen Dolenni i weld mwy o gyrff sy’n arbenigo ynddo.