»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Syniadau ac Awgrymiadau...

GARTREF…

YN YR ARDD...

ALLAN YN SIOPA…

MYND O GWMPAS...

YN YR YSGOL...

YN Y GWAITH...

YN Y GYMUNED...

AR WYLIAU...

CYNNAL DIGWYDDIAD...

AR GYFER EICH PRIODAS...

 

 

 

GARTREF… Awgrymiadau gwych i’ch helpu i arbed arian a’r blaned

Gwyliwch y Gwagle

Gallai inswleiddio’ch waliau fod y ffordd fwyaf cost-effeithiol o arbed arian yn eich cartref. Mae tua 33% o’r gwres a gollir yn eich cartref trwy’r waliau, felly gallai eu hinswleiddio arbed cymaint â £130 i chi ar eich biliau gwres bob blwyddyn! 

Am syniad disglair!

Mae bylbiau golau arbed ynni’n para tua 10 gwaith mor hir â bylbiau gwifren traddodiadol ac oherwydd eu bod yn defnyddio llai o ynni, maen nhw’n well o lawer i’r amgylchedd. Gallai newid i fylbiau arbed ynni arbed arian i chi hefyd - cymaint â £7 y flwyddyn. Ond cofiwch eu troi i ffwrdd pan fyddwch yn gadael y stafell.

Nwy glas, glas cartref

Gofynnwch i’ch cyflenwr ynni am newid i gynllun talu gwyrdd a sicrhau y buddsoddir rhan o’ch taliad biliau mewn ffurfiau adnewyddadwy o ynni fel gwynt, haul a dŵr.

Syniad uchel

Mae inswleiddio’ch croglofft yn un o’r ffyrdd symlaf o arbed ynni a gallwch chi hyd yn oed ei osod eich hun. Inswleiddiwch eich croglofft heddiw ac ym mhen blwyddyn gallwch fod wedi arbed rhwng £180 a £220.

Rhowch gaead arni!

Rhowch gaead ar eich padelli wrth goginio a byddwch ond yn defnyddio’r ynni mae arnoch chi ei angen. Cofiwch weddu maint y cylch ar eich pentan â maint eich padell; fel arall byddwch yn talu am lot o aer boeth. Os ydych yn coginio dwy neu fwy o seigiau, gallai defnyddio’r ffwrn eich helpu i ddefnyddio llai byth o ynni.

Storm mewn cwpan de

Os ydych chi’n gwneud paned, cofiwch ferwi dim ond cymaint o ddŵr ag y mae arnoch chi ei angen a helpwch chi i arbed £1 miliwn y flwyddyn i’r DU. Mae berwi tegell llawn yn defnyddio cymaint o drydan ag mae’n ei gymryd i oleuo’ch ystafell fyw am noswaith gyfan!

Nid hael ond hael gartref

Os yw’ch hen ddodrefn yn dal i fod yn ddefnyddiol, cofiwch fod sbwriel un person yn drysor i berson arall. Bydd eich elusen gymunedol leol yn falch o ddod o hyd i gartref da i’ch eitemau dieisiau.

Syniad hanner gwlyb

Arbedwch gostau dŵr a gwres trwy gael cawod yn lle baddon - mae cawodydd yn defnyddio llai na hanner y dŵr mae ei angen ar gyfer baddon. Os ydych yn wir chwantu am gael gorwedd yn y swigod, gallech bob amser gynilo dŵr trwy ei rannu â rhywun ac os ydych yn ymolchi wrth olau cannwyll, byddwch yn arbed trydan yn ogystal â rhoi pleser ymlaciol i chi’ch hun.

Trowch at ddiffodd

Mae taclau a adewir ar y botwm barod yn defnyddio arian er nad ydych chi’n eu defnyddio. Bob blwyddyn, mae’n cymryd dwy orsaf bŵer dim ond i gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer taclau a adewir ar barod yn y DU. Arbedwch lwyth o arian trwy eu diffodd.

Cymhellion arbed arian

Yn lle gwario’ch arian i gyd ar beraroglwyr drud, annaturiol, beth am gymysgu olewau hanfodol, naturiol, fel rhosyn, fanila neu bren sandal â photel bach o ddŵr a’u chwistrellu ar eich gwresogwyr i greu gwynt hyfryd – rhyddheir yr arogl wrth iddyn nhw gynhesu.

Amseru gwych!

Amserwch eich gwres i ddiffodd hanner awr cyn i chi adael y tŷ ac amserwch ef i ddod ymlaen eto hanner awr cyn i chi ddod adref am yr effeithiolrwydd mwyaf. Mae cael y gwres canolog ymlaen trwy’r amser yn llosgi tanwyddau ffosil, yn costio arian i chi, a gall yr aer sych niweidio’ch croen a’ch gwallt. Gall troi’ch thermostat i lawr o un radd yn unig arbed £30 y flwyddyn i chi.

Arbed dŵr

Mae toiledau sgwd dŵr deuol yn gallu lleihau defnydd dŵr o 20%, ond os nad oes un gyda chi, mae ffordd i achub y blaned ar eich liwt eich hun. Mae hen sestonau’n dal tua 9 litr o ddŵr felly rhowch fricsen yn eich seston a lleihewch faint y dŵr rydych chi’n ei wastraffu.

Y Rhewiad Mawr

Cadwch eich oergell a’ch rhewgell yn llawn a byddwch yn lleihau’ch bil trydan trwy ddefnyddio llai o ynni a cheisiwch beidio â gadael drws eich oergell ar agor hwy nag sydd ei angen – am bob munud mae’r drws ar agor, mae’n cymryd 3 munud i oeri yn ôl i’r tymheredd iawn!

Pa mor fawr yw’ch ôl troed?

Cewch wybod pa mor gynaladwy yw’ch ffordd chi o fyw a darganfod yr hyn y gallech ei newid am y ffordd rydych chi’n byw trwy gyfrifo’ch ôl troed eco ar-lein yn www.walesfootprint.org neu www.myfootprint.org

 

Am fwy o help, cyngor a rhestr o gyflenwyr yn eich ardal chi, rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau a restrir dan y pynciau hyn:

Cartref a siopa

Ynni

Adeiladu

Iechyd

Bwyd a diod

Cymuned

 

Nol I'r Brig

 


YN YR ARDD... Syniadau i wneud eich gardd yn wir wyrdd

Harddwch Naturiol

Mae cemegion aphlaleiddiaid caled yn gallu bod yn eithriadol o niweidiol i fywyd gwyllt a gallant gael effaith niweidiol ymhellach i fyny’r gadwyn fywyd. Gofalwch am eich gardd gyda chynhyrchion naturiol ac eitemau tŷ diniwed ac fe welwch y gwobrau cyn hir.

Tyfwch eich rhai’ch hun

Mae tyfu ffrwythau a llysiau yn eich gardd eich hun yn ffordd wych o sicrhau eich bod chi’n bwyta cynnyrch di-gemigyn tymhorol sydd ddim yn ddrud iawn. Does dim angen llawer o le arnoch chi, ac os nad oes gennych eich gardd eich hun, mae rhandir yn ddewis arall sy’n rhad.

Defnyddiwch eich sebon

Bydd tipyn o hylif golchi wedi’i gymysgu â dŵr yn ataliad i bryfed gleision gynllwyn. Yn syml chwistrellwch neu ewch i’r arfer o arllwys eich dŵr golchi llestri dros yr ardd.

Lluniaeth hylif

Ataliwch y malwod duon ofnadwy hynny rhag bwyta’ch planhigion a’ch llysiau trwy ddefnyddio nwyddau tŷ cyffredinol. Mae rhoi cwrw mewn cynhwysion bas neu daenu coffi hidledig wedi’i ddefnyddio o gwmpas yr ardd yn ymddwyn fel ataliad gwych a fydd yn eich helpu i ddweud ‘hwylfawr’ wrth eich gwesteion dieisiau.

Gwnewch eich llaid eich hun

Mynnwch fin i’ch gardd a chrëwch eich gwrtaith gardd cyfoethog mewn maetholion eich hun. Mae’n well o lawer i’r amgylchedd na’r gwrteithiau sail fawn rydych chi’n gallu eu prynu yn y ganolfan arddio ac mae’n lleihau cynhyrchiad methan (nwy tŷ gwydr cryf) a achosir pan anfonir sylweddau fel torion glaswellt a gwastraff y gegin i safleoedd tirlenwi. Gofynnwch i’ch cyngor lleol neu’ch siop Gwaith yn y Cartref leol am fanylion.

Mae’r glaw yn cadw i ddisgyn

Mae casglu dŵr glaw sy’n cwympo o’ch to mewn casgen ddŵr yn ffordd wych o arbed arian am ei bod yn osgoi defnyddio dŵr trin o’ch tapiau i ddyfrio’ch gardd. Mae’ch planhigion yn ei hoffi’n well ac os oes mesurydd dŵr gyda chi, mae’n gallu arbed arian i chi ddwywaith am ei bod yn ei arbed rhag mynd lawr y ddraen. Gwiriwch gyda’ch cyflenwr dŵr am fanylion.

Golau’r Haul

Mae goleuadau gardd sy’n defnyddio pŵer yr haul yn ffordd wych o wneud i’ch gardd edrych yn bert a goleuo’ch lle byw awyr agored. Gallwch eu ffitio nhw yn unrhyw le – does dim angen trydan arnyn nhw – ac ar ôl i chi eu prynu nhw, maen nhw’n rhad ac am ddim i’w cynnal!

 

Am fwy o help, cyngor a rhestr o gyflenwyr yn eich ardal chi, rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn:

Garddio a rhandiroedd

Amgylchedd naturiol

Coetiroedd

Ail-gylchu a gwastraff

Iechyd

Bwyd a diod

Cartref a siopa

 

Nol I'r Brig

 

 


ALLAN YN SIOPA… Dyma sut i wneud newidiadau bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch poced, eich iechyd, yr amgylchedd a’r economi

Mae llai’n fwy

Dewiswch gynhyrchion sydd â llai o becynnau – mae pecynnau’n ffyslyd, yn aflêr ac yn wastraffus. Bydd eich penderfyniadau’n anfon neges glir at y cynhyrchwyr ein bod ‘ni ddim eisiau’r sbwriel i gyd yna!’ Arbedwch arian a’r amgylchedd trwy gadw llygad allan am gynhyrchion adlenwi, y mae ganddyn nhw lai o becynnau a phris is.

Arweinydd Ffasiwn

Bachwch fargen ffasiwn trwy alw heibio i’ch siop elusen leol a darganfyddwch fyd o geinder penigamp. Fel arall, ewch ar-lein a phrynwch o wefannau dillad organig. Mae cynhyrchu cotwm anorganig yn cyfrif am fwy na chwarter o ddefnydd plaleiddiaid y byd.

Chwarae teg

Cadwch lygad allan am nwyddau sy’n dangos nod Masnach Deg – byddwch yn gwybod bod cynhyrchwyr y nwyddau rydych chi’n eu prynu wedi cael pris teg am eu cynhyrchion ac yn mwynhau tâl ac amodau gweithio gwell. Ar yr 8fed Mai 2004, addawodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Cymru y wlad Fasnach Deg gyntaf yn y byd.  Mae Fforwm Masnach Deg Cymru yn annog pawb ar draws Cymru i ddangos diddordeb a chymeryd y cam pwysig hwn tuag at ddileu tlodi.

Bwyd gwych ar drothwy’ch drws!

Ystyriwch ba mor bell mae’r bwyd rydych chi’n ei brynu wedi teithio i gyrraedd y siop a gwiriwch a oes dewis arall, tymhorol a gynhyrchir yn lleol. Bydd marchnadoedd ffermwyr, cynlluniau blychau llysiau organig a siopau lleol yn aml yn cadw amrywiaeth eang o nwyddau blasus, iachus a thymhorol – bydd rhai hyd yn oed yn dod â nwyddau i’ch drws!

Astudiaeth Achos: Marchnad Glan yr Afon

Ewch yn wyrdd

Cadwch lygad allan am gynhyrchion a wneir o faterion ailgylchedig e.e. papur tŷ bach a chegin – mae’r ansawdd yn wir dda y dyddiau hyn. Mae ailgylchu’n helpu i leihau nifer y coed a dorrir i lawr i gynhyrchu papur a byddwch yn gwneud gwahaniaeth heb wneud aberth!

Mae bag am oes...

Yn lle defnyddio bagiau cario o’r archfarchnad, beth am gael ‘bag am oes’ gwydn a chryf, neu ddefnyddio basged neu droli eich hunan pan ewch i siopa? Cofiwch, mae cynlluniau ailgylchu gan lawer o’r siopau mwy felly gallwch ailgylchu’ch hen fagiau cario – bydd rhai hyd yn oed yn eich gwobrwyo am fod yn wyrdd!

Pwysau’ch pocedi

Os dim ond ychydig o fân betheuach sydd ei angen arnoch chi o’r siop, beth am gerdded neu seiclo yno yn lle mynd â’r car a threuliwch bwysau spâr o’ch gwasg yn lle colli’r pwysau yn eich pocedi? Cadwch lygad allan am gynhyrchion sydd â’r nod organig a byddwch yn gwneud ffafr i’ch blasbwyntiau yn ogystal â’r blaned – does dim cemegion na phlaleiddiaid mewn bwydydd organig.

 

Am fwy o help, cyngor a rhestr o gyflenwyr yn eich ardal chi, rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn:

Cartref a siopa

Economi ac arian

Ailgylchu a gwastraff

Iechyd

Bwyd a diod

Cynaladwyedd

 

Nol I'r Brig

 

  

 

MYND O GWMPAS... Awgrymiadau gwella iechyd a brwydro llygriad i deithwyr a chymudwyr  

Y ffordd lai ei defnydd

Afraid dweud y bydd unrhyw fodd o deithio nad yw’n cynhyrchu nwyau tŷ gwydr - h.y. cerdded a seiclo - ar ben hierarchaeth teithio gwyrdd. Maen nhw’n ffordd wych o fynd o gwmpas oherwydd eu bod yn dda i’r blaned, eich iechyd a’ch poced!

Rhannu’n gyfartal

Os ydych chi’n gallu bod yn hyblyg am drefniadau teithio, ceisiwch gynllun rhannu car pan fyddwch yn mynd i gynhadledd neu gyfarfod neu rhannwch lifft gyda rhywun i’r gwaith; bydd yn arbed petrol ac yn haneru’ch allyriannau carbon cyfunedig!

Rhedwr Ffordd

Mae’r ffordd rydych chi’n gyrru’n effeithio ar faint o danwydd rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae gyrru ymosodol yn arwain at ddefnyddio mwy o danwydd a mwy o lygredd, felly osgowch gyflymu ac arafu sydyn . Bydd gwneud yn siŵr bod eich teiars wedi’u henchwythu’n iawn a’ch bod chi ddim yn gyrru gydag eitemau trwm yn eich cist am hwy nag sydd ei angen yn eich helpu i leihau allyriannau, gan arbed y blaned a’r ceiniogau!

Ar eich beic!

Mae seiclo i’r gwaith yn ffordd wych o osgoi costau teithio a pharcio a bydd e’n cael chi’n ffit mewn dim o dro. Cadwch lygad allan am eich cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ lleol.

Cludiant cyhoeddus

Mae teithio ar y bws neu’r trên yn ffordd rad a chyfleus o fynd o gwmpas a does dim angen i chi ffwdani chwilio am le i barcio. Cewch wybod sut i gyrraedd lle mae angen i chi fynd trwy gysylltu â Traveline Cymru ar 0870 608 2 608

 

Am wybodaeth leol, rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn.

Ynni

Iechyd

Cymuned

Twristiaeth a Hamdden

Cludiant a Theithio

Technoleg

Cynaladwyedd

 

Nol I'r Brig

 

  

 

YN YR YSGOL... Gwersi pwysig am yr hyn mae’ch ysgol chi’n gallu ei wneud i helpu arbed y blaned

Dosbarth ysgrifennu

Dewch yn ysgol eco a chynhwyswch ddisgyblion mewn ysgrifennu cynllun amgylcheddol i’r ysgol – mae’n ffordd wych o gynnwys myfyrwyr a gweithio gyda’ch gilydd. Gallech chi hyd yn oed weithio tuag at fynd yn ysgol achrededig ac yn wir ddangos i’r byd pa mor bwysig mae e i chi!

Plant gwely bresych

Sefydlwch brosiectau i helpu’r plant i ddysgu am fioamrywiaeth. Beth am greu gwely llysiau neu ardd berlysiau neu le gwlyptir i ddenu bywyd gwyllt? Gwnewch yn siŵr bob amser ei bod yn ddiogel i’r plant ac osgowch aflonyddu lle sydd eisoes yn gartref i nifer o rywogaethau planhigion neu fywyd anifeiliaid.

Cerdded, nid s ôn am gerdded

Cefnogwch fentrau sy’n annog plant i gerdded neu seiclo i’r ysgol fel prosiectau ‘bws cerdded’ neu ‘llwybrau diogel i’r ysgol’.

Dysgu mwy

Rydyn ni i gyd yn gwybod am bwysigrwydd darllen, ysgrifennu a rhifyddeg, ond mae’n bryd i ychwanegu ychydig o bynciau eraill at y cwricwlwm a chael eich ysgol yn lleihau, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu. Meddyliwch am faint mae’ch ysgol yn ei wastraffu fel arfer a dysgwch i fod yn fwy darbodus ac effeithlon – byddwch yn arbed arian yn ogystal â’r amgylchedd.

Papur gwyrdd

Ceisiwch brynu papur ailgylchedig bob tro – mae’r ansawdd cystal â phapur arferol, gallwch gael e ym mhob math o liwiau a gorffeniadau ac mae e ar gael yn helaeth. Mae dewis papur ailgylchedig yn helpu i gadw adnoddau, defnyddio llai o ynni i’w gynhyrchu ac mae’n lleihau defnydd pren y byd. Hefyd mae’n helpu i gynnal y farchnad i bapur ailgylchedig ac mae’n creu mwy o angen i gasglu papur gwastraff. Bydd defnyddio’r ddwy ochr yn gwneud i’ch stoc bara’n hwy, yn arbed coed a’ch cyllideb. Gallwch ddefnyddio cefn y tudalennau wrth argraffu neu lungopïo’ch nodiadau ystafell ddosbarth.

 

Rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau lleol a restrir dan y pynciau hyn:

Ail-gylchu a Gwastraff

Bwyd a Diod

Amaethyddiaeth

Cludiant a Theithio

Cynadlwyedd

Garddio a Rhandiroedd

Cymuned

Coetiroedd

 

Nol I'r Brig

 


YN Y GWAITH... Awgrymiadau arbed arian i’ch busnes na fyddan nhw’n costio’r byd

Gwreichion Gloyw

Gallai diffodd goleuadau, y cyfrifiadur ac offer trydanol eraill gyda’r nos arbed arian i chi, estyn bywyd eich caledwedd a gallai hyd yn oed helpu i atal tân trydanol rhag dechrau.

Mae yn y print mân

Meddyliwch cyn argraffu. Ydych chi erioed wedi meddwl am faint o wastraff rydych chi’n ei greu yn y gwaith? Mae mynd yn wyrdd yn y gwaith yn hawdd; mynnwch finiau ailgylchu i bapur a chetris argraffwyr a phrynwch bapur ailgylchedig pryd bynnag rydych chi’n gallu – cyn hir gwnewch wahaniaeth mawr i’r amgylchedd.

Ewch am yr ailgylchedig

Prynwch bapur ailgylchedig. Y dyddiau hyn mae’r ansawdd cystal â phapur arferol, gallwch ei gael mewn pob math o liwiau a gorffeniadau a gyflenwir gan bob gwerthwr deunydd ysgrifennu da. Mae papur ailgylchedig yn helpu cadw adnoddau, defnyddio llai o ynni i’w gynhyrchu ac mae’n gostwng defnydd byd-eang coed. Hefyd mae’n helpu cynnal y farchnad ar gyfer papur ailgylchedig ac mae’n creu mwy o angen ar gyfer casglu papur gwastraff.

Adlenwch eich cyflenwad

Y tro nesaf i chi archeb papurach, meddyliwch yn ofalus am yr hyn sydd angen ei arnoch chi. Ystyriwch brynu adlenwadau ar gyfer beiros a chetris argraffwyr neu prynwch nwyddau wedi’u gwneud o faterion ailgylchedig.

Ewch yn greadigol

Ewch yn greadigol a darganfyddwch sut y gallwch ailddefnyddio papur fel pad nodi defnyddiol neu lyfr negeseuon. Bydd defnyddio dwy ochr eich papur swyddfa yn eich arbed rhag gorfod archebu stoc newydd mor aml, gan arbed coed a’ch cyllideb! Os ydych chi’n cadw’ch papur defnyddiedig mewn lle canolog, mae pobl yn gallu ei ddefnyddio wrth argraffu neu lungopïo dogfennau mewnol neu wneud nodiadau.

Gadewch y car gartref

Anogwch rannu lifft, defnyddio cludiant cyhoeddus neu seiclo i’r gwaith. Ceisiwch drefnu wythnos seiclo i’r gwaith i’ch gweithwyr, cynnig i dalu am gostau seiclo i gyfarfodydd yn lle gyrru neu trefnwch gael lle cloi beiciau diogel ei osod yn eich gweithle.

Bancio busnesau

Trefnwch gynllun swyddfa i ailgylchu papur defnyddiedig, cetris inc neu ganiau a photeli diod. Mae nifer o gyrff a fydd yn falch o gasglu’r rhain oddi wrthych chi’n ddi-dâl neu am ffi bach iawn.

Gwleidyddiaeth swyddfa

Crëwch bolisi amgylcheddol neu gynaladwyedd i’r swyddfa. Does dim rhaid iddo gymryd hir na bod yn gymhleth – cynhwyswch adrannau am ailgylchu yn y swyddfa, effeithlonrwydd ynni neu bolisïau cludiant y mae pawb yn gallu cytuno iddyn nhw. Cewch bawb i gyfrannu – mae’n ymarfer tîm gwych. Mae hyd yn oed modd i chi ennill achrediad bydd yn dangos i’ch cwsmeriaid bod ots gan y cwmni.

Masnach Deg

Pan drefnwch arlwyaeth ar gyfer cyfarfod, achlysur neu ddigwyddiad, gofynnwch am de, coffi, ffrwyth a siocled masnach deg a bwyd lleol neu organic lle bo’n bosib byddwch yn cefnogi’r economi leol ac yn mwynhau bwyd blasus, lleol.

 

Rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau lleol o dan y pynciau hyn:

Ynni

Ailgylchu a Gwastraff

Iechyd

Cartref a Siopa

Cludiant a Theithio

Technoleg

Cynaladwyedd

 

Nol I'r Brig

  

  

 

YN Y GYMUNED... Syniadau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar le rydych chi’n byw

Medwch yr hyn a heuwch

Mynnwch wybod a oes marchnad ffermwyr neu gynllun blychau ffrwythau a llysiau lleol gennych chi yn eich ardal a darganfyddwch fuddion prynu cynnyrch lleol. Bydd y cynnyrch yn ffres ac yn flasus a byddwch yn cefnogi tyfwyr eich cymuned leol a’ch economi leol.

Nid hael ond hael gartref

Os yw’ch hen ddodrefn yn dal i fod yn ddefnyddiol, cofiwch fod sbwriel un person yn drysor i berson arall. Bydd eich elusen gymunedol leol yn falch o ddod o hyd i gartref da i’ch eitemau dieisiau.

Rhowch rywbeth yn ôl

Gwirfoddolwch ac ymunwch â grwpiau lleol sydd bob amser yn edrych am help. Gallech helpu gyda chasgliadau sbwriel, cadwraeth, atgyweirio, addysg, iechyd, neu nifer o brosiectau eraill yn eich cymuned leol. Cysylltwch â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru www.gwirfoddolicymru.net am gyngor a gwybodaeth.

Buddsoddwch yn y gymuned leol

Mae undeb credyd yn gweithredu fel banc cymunedol a gynhelir gan bobl leol i bobl leol. Cedwir cyfraddau llog yn isel ac anogir pobl i fuddsoddi’n rheolaidd er mwyn cymhwyso am fenthyciadau. Beth am gael gwybod beth sy’n mynd yn ei flaen yn eich ardal chi? Wyddoch chi byth - gallai fod yr ateb roeddech chi’n chwilio amdano! Holwch Gymdeithas Arian Cymunedau neu Cyngor Ar Bopeth am fwy o wybodaeth.

Pŵer Merched

I’r benywod yn y byd, beth am ymuno â’ch Sefydliad Benywod lleol neu grŵp Merched y Wawr? Gallan nhw fod yn llawer o hwyl, cynnig ymdeimlad cymunedol gwych ac mae’r gwaith maen nhw wedi’i wneud i hyrwyddo byw cynaladwy’n gymeradwy. Cysylltwch â National Federation of Women’s Institutes Cymru neu Ferched y Wawr am fanylion am eich grŵp lleol.

Prosiectau Cymunedol

Mae llawer o brosiectau lleol yn cynnig buddion i bobl leol a’r economi leol yn ogystal â rhoi diwrnod allan gwych i chi a’ch teulu neu’ch grŵp ysgol h.y. ffermau cymunedol neu ddinesig, siopau cymunedol a chanolfannau croeso neu brosiectau celf.

Astudiaethau Achos: Antur Waunfawr, Y Ffatri Celfyddydau.

 

Rhowch gynnig ar chwilio am fwy o wybodaeth o dan y pynciau hyn:

Iechyd

Garddio a Rhandiroedd

Cartref a Siopa

Cymuned

Cyfiawnder Cymdeithasol

Diwylliant ac Iaith

Economi ac Arian

Twristiaeth a Hamdden

Cludiant a Theithio

Technoleg

Cynaladwyedd

 

Nol I'r Brig

 

 


AR WYLIAU... Mynnwch wybod sut gallwch ddal i wneud gwaith gwych wrth i chi ymlacio ar eich gwyliau

Gwyliau gweithio

Mae un daith mewn awyren yn gallu rhyddhau cymaint o ddeuocsid carbon i’r awyrgylch â blwyddyn gyfan o deithiau car felly beth am geisio dewis arall yn lle hedfan? Gallai fod yn llawer mwy o hwyl i fynd ar y trên, bad neu’r bws ac fe welwch gymaint yn fwy o olygfeydd hardd ar y ffordd!

Prydeinwyr tramor

Pan fyddwch ar wyliau, cofiwch ystyried arferion a thraddodiadau lleol. Triwch ddysgu rhai ymadroddion a dod i adnabod y bobl leol – cewch ymateb cynhesach trwy amgyffred â’r diwylliant o’ch cwmpas a theimlwch fel eich bod yn filiwn milltir oddi cartref, lle bynnag rydych chi.

Ymladdwch yn erbyn tlodi byd-eang ar eich gwyliau

Meddyliwch ddwywaith cyn dewis gwyliau hollgynhwysol. Weithiau mae’r arosfannau hyn yn cau rhannau o dir ar gyfer arosfannau twristiaeth, gan ddisodli pobl leol o’u tir neu eu traethau eu hun. Er y gallan nhw ymddangos yn haws, gall eich dewisiadau fod yn fwy cyfyngedig yn aml, efallai na chewch chi gymaint o werth am eich arian ag roeddech chi wedi gobeithio a gwaethaf oll efallai na fydd yr ardal leol yn elwa ar eich arian o gwbl.

Pan fyddwch yn Rhufain...

Pan fyddwch ar wyliau, boed yn y DU neu unrhyw fan arall yn y byd, ceisiwch sicrhau bod y gymuned leol yn elwa ar eich arhosiad mewn rhyw fodd. Prynwch nwyddau lleol, cefnogwch fwytai lleol a defnyddiwch gludiant cyhoeddus er enghraifft.

A ddêl yn rhad a red yn rhwydd

Os ydych chi allan yn mwynhau’r cefn gwlad, cofiwch adael olion eich traed yn unig ar eich ôl – cofiwch godi’ch sbwriel a’ch pethau a chymerwch nhw a ffotograffau’n unig wrth ymadael.

Rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn:

Ynni

Amgylchedd Naturiol

Iechyd

Bwyd a Diod

Amaethyddiaeth

Coetiroedd

Twristiaeth a Hamdden

Cludiant a Theithio

 

Nol I'r Brig

 

 

 

CYNNAL DIGWYDDIAD... Syniadau i’ch helpu chi a’ch gwesteion i gael y mwyaf o’r achlysur

Ewch yn eco!

Ceisiwch leihau ôl troed ecolegol eich digwyddiad mewn unrhyw ffordd rydych chi’n gallu. Lleihewch ddefnydd ceir trwy ddewis lleoliad sy’n hawdd ei gyrraedd ar gludiant cyhoeddus, rhowch amserlenni cludiant a mapiau fel bod amser gan bobl i gynllunio’u teithiau ac anogwch rannu lifftiau.

Byddwch yn barod

Gwnewch yn siŵr fod cyfleusterau ailgylchu digonol ar gael i waredu unrhyw wastraff yn briodol a cheisiwch leihau gwastraff trwy ddefnyddio eitemau ailddefnyddiadwy, fel llestri a chytleri go iawn, yn hytrach na’r rhai tafladwy.

Meddyliwch yn lleol

Cefnogwch yr economi leol trwy ddefnyddio lleoliad y mae pobl leol yn ei reoli ac yn berchen arno a thrwy gael arlwywyr lleol sy’n gallu cyflenwi bwyd a dyfwyd yn lleol – gwell byth os yw’n organig a maes a buarth!

Chwarae teg

Cefnogwch fasnach deg trwy gynnig te, coffi, ffrwythau a siocled masnach deg a gwnewch yn siŵr fod label arnynt i ddangos i bobl eich bod yn cefnogi Masnach Deg – gallai ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Drws agored

Gwnewch yn siŵr fod digwyddiadau yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl gydag anableddau corfforol, meddyliol neu synhwyraidd. Sicrhewch fod rampiau a lifftiau ar gael lle bo angen a bod cyfieithu ar y pryd neu gyrn siarad wrth law i’r mud a’r rhai gyda nam ar y clyw.

Siaradwch yn rhwydd

Cefnogwch ieithoedd gwahanol trwy sicrhau bod cyfieithwyr ar y pryd ar gael. Mae nifer o ffyrdd gwahanol rydych chi’n gallu cynnal digwyddiadau dwyieithog llwyddiannus.

 

Nol I'r Brig

 


AR GYFER EICH PRIODAS... Syniadau syml i’ch helpu i rannu’ch cariad â’r blaned ar eich diwrnod mawr

Rhannwch y cariad

Rhannwch hapusrwydd eich diwrnod arbennig trwy ofyn i’ch gwesteion wneud rhodd i gardod. Gallwch wneud rhestr roddion amgen sy’n cynnig y cyfle i gefnogi cymuned dlawd mewn gwlad ddatblygol trwy roi gafr neu gyflenwad dŵr glân yn lle rhoddion priodas. Ceisiwch nwyddau moesegol WWF neu wasanaeth rhoddion priodas y Ganolfan Dechnoleg Amgen.

Tynwyr hapus

Gofynnwch i’ch gwesteion rannu eu ffotos digidol â chi’n electronig yn hytrach na defnyddio camerâu tafladwy i gofnodi eu holl anturiaethau yn ystod dathliadau’r diwrnod a’r nos.

Grym blodau

Dangoswch fod ots gennych chi trwy ddefnyddio papur ailgylchedig ar gyfer eich gwahoddiadau priodas a pheidiwch ag anghofio’ch bod bellach yn gallu cael conffeti pydradwy a wneir o betalau blodau!

Gwisgwch i wneud argraff

Ceisiwch gael gafael ar ffrog benigamp neu retro o un o nifer o siopau a gwefannau (neu gwnewch eich un eich hun trwy ddefnyddio materion penigamp). Cadwch lygad allan am hen fodrwy neu un a wnaed gan aur ailgylchedig yn hytrach na phrynu’n newydd.

Cyrhaeddwch mewn steil

Cymerwch gam yn ôl mewn amser am eich diwrnod mawr a chyrhaeddwch mewn car a cheffyl. Cymerwch eich amser a mwynhewch bob eiliad o’ch taith at yr allor yn yr awyr agored. Y peth gorau yw y byddwch yn gwybod nad yw’ch taith hudol wedi cynhyrchu unrhyw allyriannau carbon.

Eco-gynllunwyr!

Bellach mae cwmnïau a fydd yn cynllunio’ch eco-briodas i chi er mwyn sicrhau ei fod yn ddiwrnod perffaith i chi a’r blaned.

 

Rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn:

Ynni

Ailgylchu a Gwastraff

Bwyd a Diod

Cartref a Siopa

Cymuned

Cyfiawnder Cymdeithasol

Diwylliant ac Iaith

Economi ac Arian

Twristiaeth a Hamdden

Cludiant a Theithio

Technoleg

Cynaladwyedd

 

Nol I'r Brig