Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud ar y drafodaeth drwy ddod yn ffrind neu aelod o Cynnal Cymru-Sustain Wales.
Mae dod yn ffrind neu aelod yn agored i unigolion ond mae categori hefyd ar gyfer sefydliadau a chwmnïau yn benodol o'r enw cefnogwyr rhwydwaith. Mae'r gwahaniaeth rhwng y categorïau yn ddibynnol ar faint hoffech chi ymrwymo.
Ffrindiau
Dewch yn ran o symudiad o bobl, yn unol yn eu hymdrech i wneud Cymru’n fwy cynaladwy, trwy ddod yn ffrind. Gall ffrindiau ddysgu mwy am fyw’n gynaladwy gyda’n e-gylchgrawn misol, GloballySusDCymru, sy’n llawn newyddion lleol a bydol, cyngor a ffeithiau. Am ddim!
Mae ffrindiau
- O bob oedran
- Yn byw unrhyw le yn y byd
- Yn diddori mewn datblygiad cynaladwy a Chymru ac am ddysgu mwy.
Aelodaeth
Fel sefydliad aelodaeth, mae safbwyntiau a dealltwriaeth ein haelodau yn hanfodol i’n llwyddiant. Mae’n aelodau’n cyfrannu’n frwdfrydig at ein cyngor i eraill, yn helpu llywio’n rhaglen waith ac yn pleidleisio ar y penderfyniadau pwysig. Bydd aelodau yn derbyn diweddariad chwarterol, GloballySusDCymru ac adran wedi’i neilltuo ar ein gwefan.
Mae aelodau:
- Dros 18
- Yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Yn cymryd camau i leihau’u holtroed carbon
- Yn hyrwyddo datblygiad cynaladwy ac annog eraill i wneud yr un fath.
Cefnogwyr Rhwydwaith
Os yw’ch busnes neu sefydliad chi yn cymryd camau cadarnhaol ar gyfer cynaladwyedd, a hoffech fod yn rhan o’n gwaith ni, pam na dewch yn bartner rhwydwaith? Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Lawrlwytho ffurflen aelodaeth.
Lawrlwytho'r daflen 'Trafodaeth, Gweithred, Newid - Dewch i ni ei wireddu'.
Am wybodaeth bellach neu i ymuno, ebostiwch info@cynnalcymru.com neu ffoniwch 02920 19 20 21.