Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Clychau Priodas yn Canu ym Mbale
PONT – Uganda - Pontypridd
Mae clychau priodas i’w clywed yn llawer amlach yng nghymunedau tlotach Mbale y dyddiau hyn diolch i gefnogaeth pobl Pontypridd i wasanaeth rhentu ffrogiau priodas yn Nwyrain Uganda.
Mae’r syniad yn syml. Mae gan lawer o wragedd priod yng Nghymru ffrogiau priodas na fyddant fyth yn eu defnyddio eto, wedi eu storio yn eu cartrefi. Wrth eu rhoi yn rhodd, gall merched yn Mbale, na fyddai fel arall yn gallu fforddio ffrog, hurio un yn lle prynu. Defnyddir yr elw a gynhyrchir o rentu’r ffrogiau hyn i gefnogi plant amddifaid a gweddwon yn yr ardal.
Mae’r cynllun yn un o naw o brosiectau a gefnogir gan PONT – Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Partneriaethau Tramor. Sefydlwyd PONT yn 2000 pan nododd grŵp bach o wirfoddolwyr brwd yn Rhondda Cynon Taf Mbale yn Nwyrain Uganda fel tref o faint tebyg i Bontypridd (ond gyda rhai o’r lefelau tlodi uchaf yn Affrica).
Ar ôl dechrau cyfnewid gwybodaeth rhwng y ddwy gymuned, perswadiodd y cyfranogwyr gyrff anllywodraethol, darparwyr iechyd ac addysg, llunwyr penderfyniadau lleol a grwpiau crefyddol ar y ddwy ochr i ffurfio rhwydwaith gyda PONT fel yr adain elusennol.
Eglura Geoff sut y dechreuodd prosiect y ffrogiau priodas: “Ddwy flynedd yn ôl daeth cydlynydd y glymblaid yn Mbale, y gweinidog gyda’r Bedyddwyr, Apollo, a’i wraig, Janet, drosodd i aros gyda ni.
“Y pryd hynny roeddent yn chwilio am gymorth i adeiladu cartref i blant amddifad ac i wneud gwaith allgymorth gyda’r plant hyn. Roedd nifer o’r merched yn ceisio meddwl am weithgareddau i gynhyrchu incwm y gallent eu dechrau gyda gwariant dechreuol isel, i gynhyrchu incwm a chynnal eu gwaith. Un o’r syniadau oedd siop rhentu ffrogiau priodas.”
“Cyfrifodd Janet rai costau ar gyfer yr argymhellion ond roedd benthyg y cyllid i ddechrau’r prosiect o fanc yn Affrica yn anymarferol. Doedd neb yn fodlon benthyg yr arian iddynt. Dyma sut mae tlodi yn effeithio ar bobl ac yn eu hatal rhag dod allan o ddyled,” meddai Geoff.
Awgrymodd gwraig Geoff, Rosemarie, efallai y byddai yna ferched ym Mhontypridd a oedd wedi gwisgo eu ffrogiau priodas unwaith, ac na fyddent fyth yn bwriadu eu gwisgo eto, ac na fyddent yn fodlon eu taflu ond a fyddent yn fodlon helpu. Cyhoeddodd Rosemarie hyn yn yr eglwys a’r wythnos ganlynol rhoddwyd 12 o ffrogiau priodas yn rhodd iddi!
Dechreuodd fel prosiect heb unrhyw gost ynghlwm wrtho, heb ffrynt siop, a oedd yn cael ei gynnal gan y merched yn yr Eglwys yn Mbale. Pan ddeuai cyplau atynt yn cyhoeddi eu bod yn dymuno priodi, awgrymid iddynt y gallent hurio ffrog briodas.
“Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw grymuso pobl na fyddai yn gallu fforddio priodi fel arall,” meddai Geoff. “Mae cost hurio ffrog briodas, a welir fel rhywbeth hanfodol, fel arfer yn afresymol o uchel.”
Pan ymwelodd cynrychiolwyr o PONT â Mbale ym Mai 2008 canfuwyd adeilad yng nghanol y dref i’w drawsnewid yn fusnes a chytunwyd i dalu rhent a chyflogau am chwe mis, yn ogystal â rhywfaint o’r gwaith teilwra oedd yn angenrheidiol i newid y ffrogiau. Bydd y siop yn barod erbyn gaeaf 2008, mewn pryd ar gyfer y prif dymor priodi, sef tua’r Nadolig.
Mae pob ffrog yn cael ei hurio am yr hyn sy’n cyfateb i ryw £30 – cyflog cyfartalog pedair wythnos yno – felly mae angen i’r siop hurio 50 o ffrogiau mewn chwe mis i ad-dalu’r mil o bunnoedd. Bydd yr elw o’r busnes yn darparu prydau bwyd i blant amddifad lleol. Yn aml mae’n bosib y bydd eu rhieni wedi marw o HIV a byddant wedi cael eu neilltuo oddi wrth gymdeithas.
Mae prosiect y ffrogiau priodas nid yn unig yn rhoi bywoliaeth i aelodau grŵp cydweithredol merched yn Mbale – maent yn cynnal ac yn hurio ffrogiau i’r rhai hynny all eu fforddio, a’u rhoi ar fenthyg i’r rhai na all wneud hynny – ond mae hefyd yn galluogi llawer o deuluoedd tlawd i ddathlu eu diwrnod pwysicaf gydag urddas a balchder hefyd.
Mae’r merched o Bontypridd a roddodd eu ffrogiau wedi galluogi i ferched ym Mbale sefydlu’r cwmni priodas cydweithredol fel menter gymdeithasol. Mae’r prosiect hefyd wedi helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddofn rhwng merched Cymru ac Affrica. Ymhellach mae’n brosiect pwysig oherwydd mae’n hawdd i sefydliadau eraill ei efelychu.
Mae’r glymblaid yn meddwl mai cynaliadwyedd yw’r allwedd i lwyddiant y prosiect. “Mae PONT yn ceisio datblygu adnoddau yn hytrach na gwneud dim ond rhoi arian, hunanddibyniaeth yn hytrach na dibyniaeth ar elusen. Rydym yn helpu i gynllunio syniadau a rhoi hyfforddiant lle mae angen hynny, ond yr elfen ariannol yw’r peth olaf a gyflwynwn i’r bartneriaeth,” eglura Geoff. Y nod yn y pen draw yw gwella datblygiad ar draws y sbectrwm fel bod holl aelodau’r gymdeithas yn elwa ac yn dysgu o’r profiad.
“Ceir effaith wirioneddol ar dlodi wrth i’r sefydliadau mawr hyn weithredu gyda’i gilydd i gyrraedd cyrchnodau yn eu ffyrdd arbennig eu hunain,” meddai Geoff.
Canmolwyd PONT am ei gyfraniad tuag at ‘Gwneud Tlodi yn Hanes’ i drigolion Mbale a dyfarnwyd Dyfarniadau Cymunedol y Seren Aur iddo hefyd i gydnabod ei waith gyda phlant ac ynglŷn ag iechyd.
Gallwch ddysgu mwy am y prosiect a chynlluniau eraill PONT yn www.pont-mbale.org.uk.
Blaenorol: Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Drwy Ddysgu yn Affrica
Nesaf: Nid Dŵr yw’r Unig Anrheg – Ond Bywyd Hefyd