Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Nid Dŵr yw’r Unig Anrheg – Ond Bywyd Hefyd
WaterAid - Uganda
“Mae popeth mor obeithiol – maen nhw wedi cyflawni cymaint eisoes ac yn gallu gweld sut bydd pethau’n gwella bob blwyddyn,” ysgrifennodd Mary Watkins yn ei dyddiadur yn ystod ei thaith i Uganda i weld yr effaith mae carthffosiaeth a dŵr glân yn ei gael ar dlodi.
Elusen ryngwladol yw WaterAid sy’n gweithio i gyflenwi dŵr diogel, carthffosiaeth ac addysg hylendid i bobl dlotaf y byd. Mae diwydiant dŵr y DU yn ei chefnogi.
Bob blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi anfon cynrychiolydd ar daith cefnogwyr addysg WaterAid. Ar y daith yn 2008 roedd Mary Watkins, gweithiwr addysg teithiol i Dŵr Cymru Welsh Water. Aeth i Uganda am ddeng niwrnod a dychwelodd wedi’i hysbrydoli.
Yn ystod y daith mae’r cynrychiolwyr yn ymweld ag ardal lle nad oes unrhyw gymorth wedi bod, ardal lle mae cymorth ar waith, ac ardal lle mae’r cymorth wedi’i gyflenwi eisoes. Yna gallant weld sut mae’r arian yn cael ei wario a pha effaith mae’n ei gael ar y cymunedau sy’n byw yno.
"Rwyf i’n teimlo nawr fod gen i wir ddealltwriaeth o’r hyn mae WaterAid yn ei wneud. Roeddwn i’n ofni y byddwn i’n gweld mai ond diferyn yn y cefnfor oedd ein hymdrechion ni," esbonia Mary. "Ond na - rwyf i wedi gweld y ffordd mae pobl wedi newid a sut maen nhw’n dylanwadu ar bobl eraill i newid."
Dechreuodd y daith yn slymiau’r brif ddinas, Kampala, lle mae’n rhaid i bobl aros am oriau i brynu cyflenwadau o ddŵr diogel. Yma mae carthffosydd agored yn llifo drwy’r dref, gan lygru’r cyrsiau dŵr. “Mae’r drewdod yn ofnadwy,” cofia Mary.
Mewn blociau toiled a godwyd gan WaterAid, dywedodd un fenyw wrth Mary nad oedd yr un o’i phlant wedi bod yn sâl ers i’r toiledau gael eu hadeiladu. Er bod tâl yn cael ei godi i dalu am gynnal a chadw’r toiledau, mae plant yn cael eu defnyddio am ddim, gyda’r oedolion yn talu llai na cheiniog.
Ar ôl Kampala aeth y daith ymlaen i ardal Mpigi ger Llyn Victoria. "Un o’r problemau yn y fan honno yw toiledau pydew traddodiadol sy’n cael eu cloddio o dan y lefel trwythiad felly maen nhw’n cwympo; mae pobl yn carthu yn unrhyw le. Felly mae WaterAid yn gosod toiledau EcoSan.
“Mae’r rhain yn gwahanu’r wrin oddi wrth y gwastraff solid”, esbonia Mary. “Caiff yr wrin ei ddefnyddio i gynhyrchu plaladdwr a gwrtaith i dargedu gwyfynod a nematodau banana, ac mae’r gwastraff solid yn cael ei droi’n gompost. Roedd un dyn y cwrddon ni ag ef yn falch iawn o’i fananas mawr!"
Rhan o waith WaterAid yw addysg hylendid – sicrhau fod plant yn dysgu pwysigrwydd golchi eu dwylo. Mae’n gwneud hyn drwy gefnogi addysg gofal iechyd mewn ysgolion. “ Yn Ysgol Uwchradd Lubembe yn ardal Mpigi, roedd WaterAid wedi ariannu toiled EcoSan a dyfrdwll oedd hefyd yn cael eu defnyddio gan y gymuned. Dywedodd y prifathro wrthym ni ein bod ni wedi achub eu bywydau – roedd hynny’n brofiad arbennig iawn!"
Mewn ardal wledig nad yw hyd yma wedi derbyn cymorth yng nghylch Masindi, cariodd Mary gynhwysydd 10 litr gan gerdded gyda menywod a phlant am awr at y gors lle’r oeddent yn nôl eu dŵr.
"Anghofiaf i fyth droi’r gornel a gweld twll mwdlyd lle’r oedd disgwyl i ni gasglu dŵr," dywed. "Cefais fy arswydo oherwydd maen nhw’n coginio gyda’r dŵr hwn ac yn ei yfed.” Y newyddion da yw y bydd WaterAid yn gweithio yn yr ardal hon y flwyddyn nesaf.
Mae dŵr a charthffosiaeth yn hanfodol i leihau tlodi. Mae gwaith WaterAid yn cyfrannu’n sylweddol at gyflawni Nod Datblygu’r Mileniwm, sef haneru’r gyfran o bobl yn y byd sy’n methu cael dŵr glân a charthffosiaeth erbyn 2015.
Os nad oes rhaid i fenywod a phlant dreulio oriau bob dydd yn casglu dŵr, gall y plant fynd i’r ysgol a gall y menywod, sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith casglu dŵr, ddechrau ennill bywoliaeth drwy dyfu llysiau a gwerthu unrhyw rai sydd dros ben. Os oes ganddynt ddŵr a charthffosiaeth, mae pobl yn lanach ac yn iachach. Mae llai o ffioedd meddygol i’w talu ac maent felly’n gyfoethocach.
Wrth ddethol cymuned, yn gyntaf mae WaterAid yn cysylltu â chynghorau a swyddogion lleol, ac yn aml ymddiriedolaethau lleol (cyrff anllywodraethol). Mae ganddynt feini prawf llym ynglŷn â phwy i weithio â nhw. Rhaid cael gwarant y bydd y gwaith o reoli a chynnal a chadw’r gosodiadau yn parhau, er enghraifft drwy sicrhau fod pobl yn cael eu hyfforddi i fod yn beirianwyr pwmp i edrych ar ôl pwmp dŵr os oes un yn cael ei osod.
Yr arhosiad olaf ar y daith oedd Nyakasagazi, oedd wedi newid o fod â 0% o doiledau i bron 100% o fewn chwe mis. "Roedd y gwahaniaeth yn yr awyrgylch rhwng y lle hwn a’r cyntaf i ni ymweld ag e’n ddramatig. Yn lle caledi a baw roedd glanweithdra, hyder, brwdfrydedd a gobaith."
Mae cynaliadwyedd yn hanfodol felly mae WaterAid yn ystyried hyn yn ofalus cyn ymrwymo i brosiect. Nid dŵr ac iechyd yw’r unig bethau mae WaterAid yn eu rhoi i bobl; mae’n rhoi bywyd iddyn nhw.
Yn 2004, gosododd Dŵr Cymru Welsh Water darged iddo’i hun i godi £1 miliwn i WaterAid ac mae bellach dros hanner ffordd at gyflawni’r targed hwnnw. O 2007 ymlaen bydd yr holl arian a godir yn mynd i Uganda, lle mae gwaith WaterAid eisoes wedi helpu cannoedd o filoedd o bobl i gael dŵr diogel a charthffosiaeth effeithiol.
Ond nid diwydiant yw’r unig rai sy’n gallu helpu; gall unrhyw un wneud cyfraniad neu ddysgu rhagor am waith WaterAid ar www.wateraid.org.
Blaenorol: Clychau Priodas yn Canu ym Mbale