Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Lle mae Athrawon yn Dysgu Gwers y Gallant ei Dwyn Adref...
Dolen Cymru: dolen Cymru - Lesotho
Byddai addysgu dosbarth o 80 o ddisgyblion yn Lesotho, yn yr awyr agored, gydag adnoddau cyfyngedig, yn her i unrhyw athro. Ond gyda chymorth Dolen Cymru, mae digon o athrawon o Gymru wedi gwneud yr union beth hwnnw ac wedi canfod mai hwn oedd un o adegau mwyaf gwerthfawr eu bywydau.
“Mae’n brofiad mor rhyfeddol ac rydych yn dod i ddysgu dulliau newydd o addysgu y gallwch eu defnyddio yn ôl yn eich ystafell ddosbarth gartref,” meddai Fiona Roberts, athrawes ar leoliad yn Ysgol Gynradd St. John, Mafeteng.
Cysylltir dros 80 o ysgolion Cymru gydag ysgolion yn Lesotho, teyrnas annibynnol yn ne Affrica, fel rhan o gynllun o’r enw Rhaglen Lleoli Athrawon Lesotho a gyllidir gan Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cael ei gynnal gan Dolen Cymru, sefydliad sydd wedi bod yn creu cysylltiadau rhwng Cymru a Lesotho am dros ugain mlynedd.
Mae’r rhaglen yn anelu at wella safonau addysg gynradd yn Affrica drwy hyfforddi athrawon yn Lesotho yn y dulliau addysgu diweddaraf, gan adael etifeddiaeth barhaol wedi iddynt ddychwelyd i Gymru.
Mae Helen Wales a Danielle Bumford wedi dychwelyd yn ddiweddar hefyd. Lleolwyd Helen yn Ysgol Gynradd y Llywodraeth Sekoati, Mafeteng: “Mae’n wych cael plant sydd mor awyddus i ddysgu, mae cyffro yn ymwneud ag addysg o hyd yma. Weithiau roedd fy nosbarthiadau mor fawr ag 80 o blant ar y tro!” meddai. “Felly mae’n rhaid i chi fod yn hynod o ddyfeisgar.”
“Roeddwn yn llawer mwy dyfeisgar nag yr oeddwn erioed wedi dychmygu y gallwn fod,” cytuna Fiona, “yn gallu meddwl ar fy nhraed yn gyflym ac addasu fy addysgu i unrhyw sefyllfaoedd oedd yn codi. Dysgais sut i ymdopi gyda llai a sut i ddefnyddio’r amgylchedd o’m cwmpas.
Oherwydd bod yr ystafelloedd dosbarth yn fach, mae’r addysgu yn aml yn cael ei wneud y tu allan. “Cefais y plant i adeiladu cysgodfannau ac yna gofynnais iddynt ysgrifennu am hyn yn Saesneg,” meddai Fiona eto. Addysgodd hefyd drwy ddefnyddio caneuon, gemau ac yn arbennig celf, nad oeddent erioed wedi eu haddysgu yn yr ysgol o’r blaen.
Daeth addysg gynradd i gael ei gynnig am ddim yn Lesotho rhyw saith mlynedd yn unig yn ôl. “Deuthum ag arbenigedd i’r athrawon a oedd yn dal i ddod i arfer â’r gyfundrefn,” meddai Helen. “Mae Dolen Cymru-Lesotho mewn gwirionedd yn y maes llafur, sy’n wych oherwydd mae’r plant yn cael dysgu am ddiwylliant cwbl wahanol i’w diwylliant eu hunain.
“Rwy’n teimlo fod y ffaith fy mod i wedi bod allan yna wedi sicrhau bod gan y plant fwy o ddiddordeb yng Nghymru a gweddill y byd, oherwydd roeddwn yn gallu rhoi safbwynt diwylliannol gwahanol iddynt.”
Ers ei lleoliad, mae Fiona wedi gwerthfawrogi’r adnoddau sydd ar gael i athrawon yng Nghymru yn fwy ac mae wedi dysgu dull o addysgu llawer mwy creadigol. “Mae athrawon yn rhannu gwybodaeth ac rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd,” meddai. Mae hyn yn ymestyn at y disgyblion hefyd. “Mewn astudiaethau cymdeithasol mae plant yn Lesotho a Chymru yn gwneud yr un gwaith ac yna yn ei anfon i’w gilydd, er enghraifft cardiau Nadolig, mapiau, lluniau a llythyrau, sy’n ei gwneud yn bosib i’r ddwy wlad ddysgu am ddiwylliannau gwahanol.”
Felly sut brofiad yw bod yn Lesotho? “Roeddwn wedi fy amgylchynu gan bobl drwy’r amser a gwnes ffrindiau da,” meddai Danielle, a leolwyd yn Ysgol Gynradd Gatholig St Patricks, Mohale’s Hoek. “Roedd fel bod â theulu mawr allan yno. Doedd o ddim fel byw mewn fflat mewn dinas, roedd pawb yn cymysgu â’i gilydd. Bûm mewn tair priodas, parti graddio ac angladd.”
“Mae pawb mor gyfeillgar ac mae gan bobl amser i’w gilydd,” cytuna Helen. “Mae mor wahanol i’n ffordd gyflym ni o fyw.”
Mae Helen yn teimlo ei bod yn sicr wedi dod yn fwy ymwybodol yn ddiwylliannol: “Cynhaliwyd profion HIV yn yr ysgol yr oeddwn yn gweithio ynddi, ond nid oedd yn ymddangos fod unrhyw gamau dilynol yn digwydd ar ôl hynny. Cydnabyddir bod HIV ac AIDS yn bod ond mae rhyw fath o wadiad yn ei gylch fel pe bai’n cael ei dderbyn fel rhan o fywyd.”
Mae tlodi yn broblem wirioneddol hefyd. “Pan ydych wedi bod yno am ychydig rydych yn dechrau sylweddoli fod pobl yn byw ar ychydig iawn. Pethau bach fel peidio â gallu fforddio gwisgoedd ysgol newydd fel bod y plant yn gwisgo'r un wisg drwy gydol eu haddysg.”
“Yn un o’m dosbarthiadau roedd gennyf fachgen a oedd wedi bod yn cymryd rhan mewn troseddau yn ymwneud â chyllyll a gangiau, oedd yn frawychus iawn ac yn wahanol iawn i’r hyn oedd yn digwydd gartref,” meddai Helen.
“Roedd pobl yn credu fod pobl wen yn gallu achub y byd – a oedd yn dipyn o her i ddechrau, oherwydd bod yr athrawon yn disgwyl i chi fod â’r holl atebion!”
Er gwaethaf yr heriau, roedd Helen wedi dotio at y brwdfrydedd. “Mae’r plant mor awyddus i ddysgu byddent yn gweiddi hwre pan fyddech yn cerdded i mewn i’r ystafell ddosbarth. Pe baech yn dysgu caneuon Saesneg iddynt byddent yn canu i chi er mwyn gwneud i chi aros yn hwy ar ddiwedd y dydd!”
Byddai Fiona yn sicr yn annog eraill i gymryd rhan mewn prosiectau tebyg “Byddwn wrth fy modd yn mynd yn ôl oherwydd fy mod wedi gwneud ffrindiau da. Byddwn yn dweud wrth unrhyw athro am gymryd rhan yn y cynllun, mae’n brofiad mor wych.”
“Rwyf wedi ennill llawer mwy o hyder ynof fi fy hun a’m gallu i addysgu,” cytuna Danielle. “Rwyf hefyd wedi ennill mwy o gydnabyddiaeth gan yr athrawon yn fy ysgol yng Nghymru.”
Mae Helen yn cytuno: “Mae’n wych i athrawon sydd wedi dysgu am dipyn yn y DU i roi her wirioneddol iddyn nhw eu hunain.” Beth yw ei chyngor? “Dewch allan heb unrhyw ddisgwyliadau a pheidiwch â dod allan yn meddwl y gallwch newid y modd y mae pobl yn byw!”
I ddarganfod mwy ac i gymryd rhan ymwelwch â www.dolencymru.com.
Blaenorol: Y Fam a’r Babi yn Gwneud yn Dda
Nesaf: Y Ffactor sy’n Gwneud i chi Deimlo’n dda Ynghylch Masnach Deg