»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant

Y Fam a’r Babi yn Gwneud yn Dda
Gobaith i Grace Kodindo: dolen Caerdydd - Chad

Angela GormanCyrhaeddodd Angela Gorman, bydwraig o dde Cymru, gartref ar ôl diwrnod caled yn y gwaith a rhoddodd ei thraed i fyny i wylio ychydig o deledu. Mae’r hyn a welodd y noson honno wedi ei hysbrydoli i wneud rhywbeth a fyddai’n achub bywydau miloedd o ferched yn Affrica.

‘Roedd yng nghanol ymgyrch Gwneud Tlodi’n Hanes a daeth rhaglen ddogfen Panorama ar y BBC ymlaen o’r enw ‘Dead Mums Don’t Cry’ eglura Angela, a oedd ar y pryd yn Uwch Chwaer i’r Newydd-anedig yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd.

‘Roedd y rhaglen ddogfen yn ymwneud ag ysbyty mamolaeth yn Chad, Canol Affrica, lle roedd meddyg o’r enw Grace Kodindo yn brwydro i achub bywydau merched beichiog. Roeddent yn colli un y dydd oherwydd na allent fforddio meddyginiaeth sylfaenol.’

‘Cysylltais â’r rhaglen,’ eglura Angela. ‘Siaradais â phobl eraill a oedd hefyd wedi cysylltu a chyda’n gilydd ffurfiwyd elusen Hope for Grace Kodindo.’

Ar ôl darganfod nawdd gan nifer o sefydliadau (rhoddodd undeb llafur Angela, Unison, yn unig, £5,000) aethant ymlaen i gyflenwi offer a chyffuriau i’r ysbyty lle roedd Dr Kodindo yn gweithio.

Un o’r pwysicaf o’r cyffuriau hyn yw Magnesiwm Sylffad. Mae’n anodd cael gafael arno yn Affrica, ac am ddim ond 60c y dôs gall achub bywyd merch. Fe’i defnyddir i drin eclampsia mewn merched beichiog.

Mewn gwledydd mwy cyfoethog ac iachach mae pre-eclampsia yn digwydd mewn cymaint â 10% o achosion o ferched beichiog, ac mae’n hawdd ei drin. Mae’n fwy cyffredin yn Affrica mewn merched sydd â phwysedd gwaed uchel, clefyd siwgr a chlefydau awto-imiwn yn barod, fel lupus. Efallai y bydd ar ferch angen 5-7 dos, ond mae teuluoedd yn cael trafferth i godi’r arian. Felly heb unrhyw ddewis arall mae’n aml yn cael ei adael heb ei drin ac mae’r effeithiau yn ddifäol.

Yn 2005, yn y 12 mis cyn y rhaglen ddogfen ar y teledu, cyfradd marwolaeth ymhlith mamau yn N’Djamena, prifddinas Chad oedd 14%. Yn y flwyddyn yn dilyn ymyrraeth yr elusen gostyngodd y ffigur hwn i 2.3% gan fodloni a mynd y tu hwnt i ofynion 5ed Cyrchnod Datblygu’r Mileniwm, sef gwella iechyd mamau.

‘Y peth mwyaf rhyfeddol am hyn yw pa mor hawdd y mae wedi bod. Mae hynny’n wych, ond mae’n fy ngwneud yn wirioneddol ddig y caniatawyd i bethau gyrraedd y sefyllfa hon,’ medd Angela.

‘Cysylltodd y Senedd Ewropeaidd a Chronfa Poblogaeth y Cenhedloedd Unedig (UNFPA) â ni ym Mai 2007 i ofyn a allem ailadrodd yr un llwyddiant yn Liberia, sy’n wlad gyfagos,’ medd Angela eto. ‘Felly fe’m rhyddhawyd o’m swydd ar secondiad di-dâl am dair blynedd i weithio’n amser llawn i’r elusen.’

Daeth gwaith yr elusen i sylw Llywodraeth Cynulliad Cymru, a dalodd am ymweliad â Liberia ym Mai 2008 ac a ddarparodd gyllid i ddechrau hyfforddi bydwragedd. ‘Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi cymorth gwirioneddol i ni,’ ychwanega Angela.

Drwy rannu eu sgiliau, mae swyddogion proffesiynol yn ymwneud ag iechyd o Gymru yn datblygu profiad hanfodol wrth ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol o ran gofal iechyd. Mae llawer yn cael eu hysbrydoli gymaint i helpu fel y maent yn mynd allan ar eu pennau eu hunain gan gymryd gwyliau blynyddol a chodi eu harian eu hunain. Mae cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ychwanegol at y cyllid hwn ac arian a godir gan elusennau fel Hope for Grace Kodindo.

Sefydlwyd ‘Grŵp Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica’ yn 2007 i hwyluso dull cydlynus ac effeithiol o hyrwyddo a chefnogi datblygu’r agenda iechyd byd-eang yng Nghymru.

Meddai Biku Ghosh, Cadeirydd y Grŵp: ‘Cydnabyddir bod Cymru yn arwain y ffordd o ran datblygu a chynnal cysylltiadau iechyd. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn rhannu profiad ac arbenigedd rhwng cysylltiadau yng Nghymru a’n cydweithwyr yn Affrica. Os yw Cymru i fod yn wirioneddol effeithiol o ran ymdrin ag anghyfartaleddau iechyd byd-eang rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd a chynyddu effaith y llu o gysylltiadau iechyd sy’n gweithredu yng Nghymru.’

‘Pe bai rhywun yn dymuno efelychu’r hyn yr ydym wedi ei wneud, byddai angen iddynt sicrhau bod bydwragedd yn rhan o’r gwaith yn y ddau ben, a gwneud dadansoddiad o anghenion,’ meddai Angela. ‘A oes ganddynt y staff meddygol? A oes ganddynt y cyffuriau? A oes ganddynt yr hyfforddiant? Mae arnynt angen yr holl wybodaeth hon.’

Pa mor hir y bydd Hope for Grace Kodindo yn parhau? ‘Y diwrnod y byddan nhw yn dweud wrthym, ‘Angela does arnom ni mo’ch angen chi bellach, gallwn fod yn ffrindiau, a dim byd arall, o hyn ymlaen,’ dyna pryd y byddaf yn hapus,’ meddai Angela i gloi. Cewch wybod mwy yn www.hopeforgracekodindo.org.

 

Blaenorol: Pan fo’r Gymuned yn Mynd ati i Ralïo

Nesaf: Lle mae Athrawon yn Dysgu Gwers y Gallant ei Dwyn Adref....

 

Nol i'r Astudiaethau Achos