»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant

Does Unman yn Debyg i Gartref
ABESU - Sambia

Mutale NyoniEr iddi fod yng Nghymru ers ugain mlynedd, dyw Mutale Nyoni ddim wedi anghofio’i chariad at ei chartref teuluol yn Sambia. A hithau wedi llwyddo’n rhyfeddol i helpu eraill yng Nghymru, mae bellach wedi troi ei sylw at fenywod yn ôl yn ei mamwlad.

Mae Mutale yn hoffi dweud wrth bobl bod modd prynu tŷ am £1,900 - dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi a’i chyd-ymddiriedolwyr yn ABESU, yr elusen a helpodd ei sefydlu, wedi gwerthu nifer o dai i’w teuluoedd, eu cyfeillion a phobl hael eraill. Ond nid tai i’w cyfeillion fyw ynddynt yw’r rhain; maen nhw ar gyfer teuluoedd sydd â menywod fel penteulu yn Sambia. £1,900 yw cost codi tŷ yno.

“O ganlyniad i’r epidemig HIV/AIDS sydd wedi cydio yn y wlad, mae llawer o deuluoedd wedi colli gwŷr a thadau – y rhai a fyddai’n draddodiadol yn cadw’r teulu. Felly fe benderfynon ni weithio gyda chydweithredfa menywod o’r enw Mitengo, gerllaw Lusaka,” esbonia Mutale. “Roedden ni am eu helpu nhw am eu bod nhw eisoes yn helpu eu hunain.”

Gwaith Mutale Nyoni o ddydd i ddydd, fel prif weithredwr BAWSO, yw helpu menywod du ac o leiafrifoedd ethnig drwy Gymru sydd wedi dioddef trais yn y cartref. “Roedd fy ngŵr Travers Merrill a mi am sefydlu prosiect i godi arian yn y DU i’w anfon i Sambia i helpu pobl sy’n gofalu am blant amddifad,” meddai. Travers yw Cadeirydd ABESU a Chyfarwyddwr Charity Futures.

“Rwyf i wastad wedi bod â diddordeb mewn menywod a thai,” dywed Mutale. “Felly fe aethon ni i Sambia yn 2006 i wneud asesiad o’r anghenion, a dewis ardal wledig ger tref Lusaka.

“Y prif broblemau yn Lusaka yw tai, carthffosiaeth a dŵr. Dywedodd y menywod mai ym maes tai roedd angen y cymorth mwyaf, ond roedden nhw’n awyddus iawn i gynllunio ac adeiladu’r tai eu hunain.”

Dychmygwch adeiladu eich cartref eich hun fesul bric. Nid yn unig hynny, ond mae’n rhaid i chi wneud y briciau hefyd! Mae hyn yn gyffredin drwy Affrica gyfan.

Efallai nad yw’r tai yn swnio’n llawer, ond i’r rhan fwyaf o’r menywod, maen nhw’n foethus. Gallai rhai o’r menywod hyn fod â phump o blant eu hunain, gan ofalu hefyd am yr un nifer o blant sy’n amddifad oherwydd y pandemig HIV. Mae llawer ohonynt yn wragedd gweddw, a rhyngddynt maen nhw’n gofalu am dros 650 o blant.

“Cyn hyn doedden nhw ddim yn gallu cael dŵr glân, ac efallai y bydden nhw’n byw mewn tŷ un ystafell oedd yn dadfeilio. Ond pan fyddan nhw wedi gorffen, mae gan y tai loriau concrit, to rhychiog sy’n dal dŵr a nenfydau mewnol, briciau wedi’u gwneud ganddyn nhw eu hunain o fwd, dwy neu hyd yn oed tair ystafell wely, cegin a lolfa. Rydyn ni wedi suddo dyfrdyllau i sicrhau dŵr iddyn nhw, ac er nad oes ganddyn nhw ynni, dyw hynny ddim yn anghenrheidiol.”

Mae’r menywod yn treulio oriau lawer yn cloddio sylfaeni, torri creigiau ar gyfer y sylfaeni a thanio briciau mewn odyn gartref, gan adeiladu eu tai gyda chymorth y gymuned.

Mae hwn yn brosiect cyffrous oherwydd mae’r arian sy’n cael ei godi yn mynd yn syth at y menywod. “Rydych chi’n ymweld ac yn gweld y tŷ sydd wedi’i adeiladu â’r £1,900 a anfonwyd gennych chi! Does dim biwrocratiaeth!”

“Y cyfan rydyn ni’n ei wneud yw codi arian yn y wlad hon, anfon yr arian i Sambia ac wedyn mae’r gydweithredfa’n ei reoli. Mae aelodau o’r Bwrdd (ymddiriedolwyr) yn hoffi mynd draw unwaith y flwyddyn i weld beth sy’n digwydd. Dim ond un aelod o staff sydd gennym ni yn Sambia i oruchwylio’r prosiect felly ychydig iawn o gostau gweinyddu sydd.

“Rydyn ni wedi adeiladu ugain o dai mewn blwyddyn ac wedi suddo tua chwe dyfrdwll ond mae ffordd bell i fynd o hyd! Rydyn ni hefyd wedi codi arian ar gyfer ymwybyddiaeth HIV/AIDS ac i gefnogi’r rhai sy’n gofalu am gleifion â HIV.”

Ond beth yw barn y dynion sydd ar ôl am yr holl sylw sy’n cael ei roi i’r menywod? “Ar y dechrau doedd y dynion ddim am fod yn rhan o’r gwaith,” dywed Mutale. “Roedd rhai ohonyn nhw’n credu eu bod yn cael eu gadael allan ond yn yr ail gam rydyn ni’n edrych i weld sut gallwn ni eu cynnwys nhw oherwydd rydyn ni am i’r prosiect fod yn rhywbeth i’r teulu.

“Mae ABESU yn cynnal digwyddiadau i godi arian, fel ein digwyddiad lansio yn Nhŵr BT yn Llundain, a digwyddiad arall yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ac mae gennym ni ffair haf, ac er nad yw hwnnw’n codi llawer o arian, mae’n codi ymwybyddiaeth. Daw’r rhan fwyaf o’n cyllid gan deulu a ffrindiau a rhai aelodau o’r bwrdd.”

Sefydliad ifanc yw ABESU o hyd. Beth am y dyfodol? “Dywedodd y menywod mai eu blaenoriaeth oedd adeiladu tai ond byddwn ni’n cyfrannu at gostau adeiladu ysgolion mewn rhai ardaloedd hefyd - cafodd un ysgol ei golchi i ffwrdd felly byddwn ni’n helpu i’w hailadeiladu, gan adeiladu toiledau allanol a chlinig o bosibl.”

Mae dau neu dri pheiriant gwnïo gan Gydweithredfa Menywod Mitengo er mwyn gwneud gwisgoedd ysgol a dillad eraill - ond nid er mwyn creu incwm - ac mae’r rhan fwyaf o deuluoedd Lusaka yn tyfu cnydau i’w cynnal.

Mae ABESU a’r Gydweithredfa yn edrych ar wella’r modd mae lleiniau llysiau yn cael eu dyfrio, gan liniaru effaith mwyngloddio copr ar ansawdd dŵr yr afon a chodi pont dros afon Chongwe er mwyn galluogi pobl i groesi yn ystod y tymor glawog. Bydd hyn yn caniatáu i’r menywod fynd â nwyddau i’w gwerthu yn Nhref Chongwe. “Byddwn ni hefyd yn gobeithio darparu cyllid sbarduno i fentrau er mwyn iddyn nhw allu bod yn fwy hunangynhaliol a chreu incwm,” ychwanega Mutale.

Ceir manylion sut i helpu ar y wefan www.abesu.org.

 

Nesaf: Y Dref Fasnach Deg Gyntaf yng Nghymru

 

Nol i'r Astudiaethau Achos