»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant

Y Ffactor sy’n Gwneud i Chi Deimlo’n Dda Ynghylch Masnach Deg

Mae busnesau ar draws Cymru yn dewis Masnach Deg yn gynyddol, gyda llawer o’r cynhyrchion yn dod o Affrica. Chwaraeodd yr ymrwymiad hwn ran bwysig yn y ffaith fod Cymru wedi dod yn Genedl Fasnach Deg gynta’r byd.

Mae Bar Caffi Chambers yn Abertawe yn un o’r busnesau hyn. “Rydym yn defnyddio cynhwysion organig, masnach deg neu leol lle bynnag y bo hynny’n bosibl,” meddai’r perchennog, Sian Mead. “Rydym yn cynnig dewis o winoedd organig a masnach deg gan gynnwys Stellar Organics o Dde Affrica.”

Cynhyrchir y gwin gan Ymddiriedolaeth Gweithwyr Masnach Deg Stellar yn Trawal, i’r gogledd o Cape Town. Mae gwerthu’r gwin yn dod â budd uniongyrchol i’r gweithlu gyda thai am ddim, trydan a dŵr, ysgolion a chyfleusterau gofal plant y rhoddir cymhorthdal tuag atynt, gofal iechyd a gwasanaethau parhaol gweithiwr cymuned.

Meddai Sian: “Mae’r gwinoedd wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg ein cwsmeriaid, sydd fel arfer yn synnu pa mor dda maent yn cymharu – ac nad yw’r cynhwysion organig yn ymddangos fel pe baent yn rhoi cymaint o boen pen i chi ar ôl eu hyfed!”

Mae Dwyfor Sustainable Supplies a leolir yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn yn gyflenwr masnach deg. Sefydlodd Mark Richardson, cydlynydd blaenorol ymgyrch Cenedl Masnach Deg yng Nghymru, y busnes yn 2008 ar ôl darganfod galw am gynhyrchion masnach deg nad oedd yn cael ei fodloni.

“Camwyd i mewn i lenwi bwlch,” meddai Mark. “Ein prif farchnad yw ysgolion, prifysgolion, cynghorau, siopau, caffis a gwestai.”

Mae Dwyfor yn cael ei siocled oddi wrth gwmni cydweithredol Kuapa Kokoo yn Ghana. Maent yn cael pris teg a sefydlog o fasnach deg a phremiwm i fynd yn ôl i’r gymuned. Gallant fforddio anfon eu plant i’r ysgol a gallant wario’r premiwm ar brosiectau datblygu cymunedol – fel adeiladu ffynhonnau i gael dŵr yfed glân. Mae prosiectau i ferched hefyd i’w helpu i ddatblygu incwm ychwanegol fel gwneud sebon.

“Maent yn gwmni cydweithredol ac yn pleidleisio’n ddemocrataidd ynglŷn â sut i wario’r premiwm cymdeithasol,” meddai Mark. “Mae un aelod un bleidlais yn golygu bod merched a dynion yn cael cymaint o lais â’i gilydd. Mae gan Kuapa bellach gynrychiolaeth dda iawn o ferched ar y pwyllgorau. Ein huchelgais fel cyfanwerthwr yw rhoi masnach deg yn y brif ffrwd, nid dim ond trwy Gymru ond trwy’r Deyrnas Unedig i gyd,” meddai Mark.

Martha Musonza Holman o Zimbabwe yw’r unig gynhyrchwr masnach deg o Affrica sy’n byw yng Nghymru. Sefydlodd ei busnes yn benodol i helpu ei phobl yn ôl yn ei mamwlad: “Helpais i sefydlu cwmni cydweithredol i ferched ac fe’u dysgais sut i lunio a gwneud ffabrigau batik,” eglura Martha.

Yna yn ystod y clip ar yr haul yn y wlad yn 2001 cerddodd 72 km gyda rhai o’r ffabrigau i’w gwerthu i dwristiaid. Yno cyfarfu â Chymraes o’r enw Samara Hawthorn. Prynodd Samara’r holl dectsiliau ac arweiniodd digwyddiadau wedyn at iddi noddi Martha i fynd drosodd a gwerthu yng Nghymru.

Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd ar unrhyw gyfrif. Roedd gan Martha ddau fachgen 9 a 12 oed yr oedd yn rhaid iddi eu gadael ar ôl.

Yn y Fenni cyfarfu â David. Gyda’i gilydd sefydlwyd Love Zimbabwe gyda chymorth gan Ganolfan Gydweithredol Cymru i farchnata a datblygu’r fenter gymdeithasol.

Mae’r cwpl yn gwerthu crefftau a fasnachir yn deg o Zimbabwe mewn ffeiriau crefftau a marchnadoedd drwy Gymru ac ar-lein. Maent yn dychwelyd yn rheolaidd i ganfod mwy o grefftau gyda chymorth meibion Martha sydd bellach yn trin y pen hwnnw o’r busnes yn Zimbabwe.

Caiff elw ei droi yn ôl i brosiectau cymunedol fel creu dyfrdwll yn Dombashawa, ardal sych iawn i’r gogledd ddwyrain o Harare. “Cyn gynted ag y bo’r dyfrdwll wedi ei ddrilio gallwn ddod â chywion i’r ardal a gallwn gyflwyno dyfrhau fel y gellir tyfu tomatos, chillis ac india corn,” eglura David.

“Prif amcan Love Zimbabwe yw uno pobl Zimbabwe a Chymru,” meddai Martha, “fel y gallwn hefyd gynnig diwylliant Affrica i ysgolion Cymru. Rwy’n cynnal gweithdai ar fasnach deg ac yn defnyddio crefftau, cerddoriaeth Affricanaidd a drymio.” Mae’r tâl am yr ymweliadau ag ysgolion yn mynd yn syth yn ôl i brosiectau gartref.

“Rwy’n falch o’m gwlad ac yn teimlo fy mod yn llysgennad i’m pobl,” meddai Martha. “Pan anfonaf arian yn ôl mae’n gwneud iddynt deimlo’n falch oherwydd mae’n arian y maen nhw wedi ei ennill. Nid oes ar Affrica angen cymorth, mae arni angen i bobl gael eu grymuso ac mae angen mwy o fasnach deg,” meddai Martha i gloi.

Mae llawer o fusnesau yng Nghymru wedi cytuno ar bolisi i ymrwymo i wneud masnach deg yn rhan o’r modd y maent yn gwneud busnes, drwy er enghraifft, weini te a choffi masnach deg mewn cyfarfodydd gyda chleientiaid neu yn ffreutur y staff.

Mae busnesau sydd wedi ymrwymo i gefnogi masnach deg yn cynnwys asiantaethau mawr fel Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sydd â mwy na 1000 o weithwyr a busnesau cymunedol, fel yr Ymddiriedolaeth Datblygu Creu ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn 2008 daeth Cymru yn Genedl Fasnach Deg gyntaf y byd o ganlyniad i’r ymrwymiad hwn ar draws pob sector. Arweiniodd Fforwm Masnach Deg Cymru yr ymgyrch. Gall grwpiau masnach deg lleol a gwyliau (festivals) gael cefnogaeth gan Fforwm Masnach Deg Cymru a gall busnesau gael gwybodaeth ynglŷn â mabwysiadu polisi masnach deg a chymorth i ddod o hyd i gynhyrchion gan Ganolfan Gydweithredol Cymru.

Cyllidir Fforwm Masnach Deg Cymru a Chanolfan Gydweithredol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fframwaith Cymru o Blaid Affrica. Ymwelwch â’r gwefannau hyn am wybodaeth:

www.fairtradewales.com,
www.walescoop.com,
www.stellarorganics.com,
http://dwyforsustainable.com a
http://ilovezimbabwe.co.uk.

 

Blaenorol: Lle mae Athrawon yn Dysgu Gwers y Gallant ei Dwyn Adref....

Nesaf: Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Drwy Ddysgu yn Affrica

 

Nol i'r Astudiaethau Achos