»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant

Y Dref Fasnach Deg Gyntaf yng Nghymru
Rhydaman

O ystyried mai Cymru yw’r Genedl Fasnach Deg gyntaf yn y byd – enillodd y statws hwn ym mis Mehefin 2008 – mae’n anodd credu nad oedd gan yr un lle yng Nghymru statws Masnach Deg bum mlynedd yn ôl.

Cyflwynwyd y fraint o fod y dref gyntaf yng Nghymru i ennill cydnabyddiaeth o’r fath i dref fach Rhydaman yn ne Cymru ym mis Gorffennaf 2002. Y dyn a sbardunodd hyn oedd Phil Broadhurst, gweithiwr yn y siop Oxfam leol.

"Roeddwn i’n ymwneud â phwyllgor ‘Gwneud Abertawe’n Ddinas Masnach Deg’,” meddai. “Pan edrychais i ar y meini prawf ar gyfer dod yn dref Masnach Deg, fe sylweddolais i fod Rhydaman eisoes yn bodloni’r rhan fwyaf ohonyn nhw. Roedd digwyddiadau Masnach Deg eisoes ar waith, gyda Chymorth Cristnogol, Traidcraft a’r capeli ac eglwysi’n cymryd rhan, a nwyddau Masnach Deg ar werth mewn nifer o fannau.

“Felly des i’n ôl i Rydaman, siarad â phobl leol, a chael cynnig wedi’i basio gan gyngor y dref. Gan fod rhai unigolion wedi bod yn hyrwyddo Masnach Deg yn y dref ers peth amser, ac oherwydd ei bod hi’n dref fach, roedd yn eithaf hawdd."

“Ar y pryd, roedd trefi eraill hefyd yn rhuthro i ennill y statws. Roeddwn i’n gobeithio na fyddai un o’r trefi mwy yn llwyddo i fod y gyntaf yng Nghymru – roeddwn i’n teimlo y byddai’n fwy o beth llawr gwlad pe bai trefi Masnach Deg bach yn codi o gwmpas y wlad.”

Pan enillodd Rhydaman ei dyfarniad cafwyd tipyn o barti. “Daeth Channel 4 News yma, radio a theledu’r BBC, y Western Mail – sylw enfawr i dref mor fach!”

Wrth i hwn gael ei ysgrifennu, mae 24 o drefi Masnach Deg ac 11 o siroedd Masnach Deg yng Nghymru, ynghyd â llawer o eglwysi, prifysgolion, colegau a gweithleoedd. Hefyd mae 450 o ysgolion wedi cofrestru ar y Cynllun Ysgol Masnach Deg. Mae’r niferoedd yn codi drwy’r amser.

I fod yn gymuned Masnach Deg, rhaid dangos dealltwriaeth sylweddol o’r cysyniad o Fasnach Deg, yn ôl Fforwm Masnach Deg Cymru. Dylai cynnyrch Masnach Deg gael ei ddefnyddio’n eang a dylai’r gymuned fod yn ymrwymedig i gynyddu ymwybyddiaeth ymhellach drwy weithgareddau hyrwyddo ac addysg.

Daw llawer o’r cynnyrch, megis coffi, siocled, cotwm, ffrwythau sych a bananas o Affrica, ac mae prynu Masnach Deg yn sicrhau fod cynhyrchwyr lleol yn cael pris teg am eu cynnyrch a’u bod yn cael eu trin yn deg.

Wrth i Fasnach Deg wreiddio yng nghymuned Rhydaman, mae ei phwyllgor llywio Masnach Deg yn gallu cynllunio ar gyfer y tymor hir - gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu’r genhedlaeth nesaf am bwysigrwydd cefnogi Masnach Deg.

Mae dwy ysgol yn Rhydaman, sef Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Bro Banw, ar hyn o bryd yn ymgeisio am statws Ysgol Masnach Deg. Mae Ysgol Gyfun Dyffryn Aman, sef ysgol uwchradd y dref, yn cynnwys llawer o waith yn gysylltiedig â Masnach Deg yn y cwricwlwm, ac mae’n cadw sudd Masnach Deg yn y ffreutur.

Mae ysgolion yn aml yn anfodlon ymgymryd â phrosiectau sy’n gofyn am waith ychwanegol, ond dywed Phil fod llawer o’r hyn a wnânt eisoes o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn braenaru’r tir ar gyfer ennill statws Masnach Deg.

Esbonia Mrs Minchin, swyddog eco-ysgolion Ysgol Rhydaman,: “Mae’r plant yn cael holiaduron i fynd adref i weld beth yw lefel ymwybyddiaeth o faterion Masnach Deg ... faint o eitemau sy’n cael eu prynu sydd yn rhai Masnach Deg ac yn y blaen.” Ceir nifer o arddangosfeydd ar y pwnc ar hysbysfyrddau’r ysgol, gan gynnwys addewidion gan ddisgyblion i brynu mwy o gynnyrch Masnach Deg. “Mae’r ysgol hefyd wedi codi arian ar gyfer hadau, da byw, meddyginiaethau ac eitemau eraill yn Affrica a mannau eraill, dan gynllun Anrhegion Oxfam Unwrapped,” meddai.

Bu’r Co-op lleol yn ganolog yn yr ymgyrch i ennill a chadw statws Masnach Deg, nid yn unig drwy werthu a hyrwyddo cynnyrch Masnach Deg, ond hefyd drwy gynnal digwyddiadau megis blasu siocled, caws a gwin. “Mae’r rheolwyr wedi bod yn wirioneddol frwdfrydig,” meddai Phil.

Pan aethom ni i ymweld, roedd Anthony Evans, rheolwr y gangen yn codi arwyddion yn hysbysebu gostyngiad o 20% ar gynnyrch Masnach Deg ac roedd bwrdd arddangos Masnach Deg yn y siop gyda phosteri, ffotograffau a gwaith celf gan blant lleol.

Ydy Phil yn meddwl efallai ei bod hi’n rhy hawdd i dref, ysgol neu eglwys gwrdd â meini prawf statws Masnach Deg? "Nac ydw. Mae’n gwobrwyo pobl am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn eu symbylu nhw i barhau. Mae hefyd yn ffordd dda i gael cyhoeddusrwydd."

Does dim lle i fod yn hunanfoddhaus wrth gadw statws Masnach Deg. Yn ddiweddar cafwyd perchnogion newydd yn un o gaffis Rhydaman, a hyd yma dydyn nhw ddim yn defnyddio cynnyrch Masnach Deg. "Bydd rhaid i ni fynd i’w perswadio ei fod yn syniad da,” meddai Phil.

Rhaid adnewyddu statws Masnach Deg bob dwy flynedd. “Pan fyddwch chi’n ei adnewyddu mae’n atgoffa pobl i barhau â’r gwaith da,” meddai Phil yn graff.

 

Blaenorol: Does Unman yn Debyg i Gartref

Nesaf: Travelodge Caerdydd Sut i Ffrwythloni Buwch

 

Nol i'r Astudiaethau Achos