Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Travelodge Caerdydd Sut i Ffrwythloni Buwch
Dolen Ffermio: Uganda
Gwlad amaethyddol yw Cymru yn ei hanfod felly mae’n naturiol bod cysylltiadau’n cael eu ffurfio â sectorau amaeth yn Affrica.
Mewn rhai rhannau o Affrica, gall meddu ar fuwch neu afr olygu’r gwahaniaeth rhwng goroesi a gwir fyw. Sefydlwyd Dolen Ffermio, yn ardal Croesoswallt a Llanfyllin, ym 1989 â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth ymysg cymunedau amaethyddol Cymru am ryng-ddibyniaeth Gogledd-De mewn amaethyddiaeth. Ers hynny, mae’r bobl sy’n ymwneud â’r ddolen yn fwy tebygol o fod â chwistrell yn eu dwylo na thaflen ffeithiau.
A beth fyddai yn y chwistrell hon? Fel yr esbonia Richard Jones, ffermwr o ardal Croesoswallt a Chadeirydd Dolen Ffermio: "Fe ddechreuon ni yn Busoga, yng nghanolbarth Uganda, gyda phrosiect oedd yn cynnwys hyfforddi milfeddygon yr ardal ynglŷn â ffrwythloni gwartheg. Ni oedd yn darparu’r semen a’r seilwaith, y beiciau modur a’r holl offer ffrwythloni artiffisial."
Mae’r buddion a allai ddeillio o’r cynllun yn enfawr. Gall croesfridio gwartheg lleol â gwartheg o ansawdd uchel godi cynhyrchiant llaeth o 3 litr i 10 litr y diwrnod. “Drwy wneud cyfraniad bach, gallwch weld gwahaniaeth enfawr o ran y canlyniadau,” esbonia Richard.
Bellach mae nifer o’r croesfridiau gwell hyn yn Busoga. Gall un yn unig wneud gwahaniaeth dramatig i ansawdd bywyd teulu gwledig.
“Mae cynnyrch llaeth yn rhoi maeth i blant ac yn darparu llif incwm. Gall unrhyw laeth sydd dros ben gael ei gludo i’r farchnad bob dydd a’i werthu am arian y gall teuluoedd ei wario ar bethau na fydden nhw fel arall yn gallu eu fforddio, fel addysg, meddyginiaeth a diet cytbwys.
Mae incwm dyddiol yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd i’r cartref ac yn cynyddu eu gallu i godi micro-gyllid hefyd, sy’n hollbwysig."
Cafodd y prosiect ei gyd-ariannu gan yr Asiantaeth Datblygu Tramor (Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol bellach). Llwyddwyd i gael rhodd o 20,000 o wellt semen (sy’n costio £10 yr un fel arfer) gan Fridwyr Gwartheg Gwlad yr Haf.
Fel yr esbonia Lorna Brown, is-gadeirydd Dolen Ffermio, sy’n filfeddyg ac yn enetegydd: “Fe dalon ni am hyfforddiant mewn ffrwythloni artiffisial i’r milfeddygon, sy’n costio tua £150 y person. Hefyd fe lwyddon ni i osod milfeddygon yn ganolog i fywyd lleol - bellach maen nhw’n gallu darparu gwasanaethau eraill i berchnogion gwartheg a geifr.”
Mae Gideon Nadiope, prif filfeddyg Dolen Ffermio yno, yn ganolog i’r prosiect. “Rydyn ni’n cysylltu drwyddo fe’n uniongyrchol,” meddai Richard. "Does dim seilwaith interim – mae’r hyn y mae pobl yn ei roi i ni yma yn mynd yn syth i’r llawr gwlad."
Ond dyw popeth ddim wedi bod yn llyfn, fel y profodd Richard yn ystod ei 15 ymweliad. "Ar y dechrau fe baratowyd 12 o ganolfannau ffrwythloni ond mae hyn wedi lleihau i chwech. Mae wedi bod yn anodd cael gafael ar nitrogen hylif, sy’n hanfodol ar gyfer ffrwythloni artiffisial.”
"Dylai’n gwaith ni gael ei wneud gan y wladwriaeth,” esbonia Richard. “Yn Uganda yn y 1960au roedd gan y wladwriaeth sefydliad ymchwil milfeddygol oedd wedi’i ddatblygu’n dda ond o dan lywodraeth Amin collodd y wlad ei seilwaith. Ers hynny, mae’r Gwasanaeth Ymgynghori Amaethyddol wedi diflannu hefyd. Dyna pam mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud mor bwysig.”
Roedd eu prosiect nesaf yn cynnwys cyflenwi gwell geifr. Yn ddiweddar, yn yr ardal nesaf at Busoga, sef Teso, cafodd holl wartheg y bobl leol eu dwyn gan lwyth nomadig. Byddai ailgyflenwi â gwartheg newydd wedi bod yn rhy ddrud o lawer iddynt, felly helpodd Dolen Ffermio gyda geifr, sy’n rhatach, ac oedd yn cynnig y budd uchaf.
Fel yr esbonia Val Talbot, ysgrifennydd Dolen Ffermio, “Mae’r prosiect yn helpu pobl dlotach nad oes ganddyn nhw ddigon o dir ar gyfer un fuwch hyd yn oed, ond sy’n gallu cadw ychydig o eifr. Sefydlwyd prosiect bridio geifr i gynyddu cynhyrchiant cig a llaeth gafr fach Dwyrain Affrica drwy ei chroesi â geifr cig Boer De Affrica a bridiau llaeth Ewropeaidd.”
"Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau menywod i ddatblygu canolfan yn Kamuli ar gyfer bridio gwell,” ychwanega Richard.
Yn ardal Kumi mae trydydd prosiect Dolen Ffermio, a’r mwyaf diweddar. Y nod yw cynorthwyo plant amddifad oedran ysgol gynradd drwy roi naill ai gafr fenyw iddynt, neu ddefnydd o fwch gafr gwell i’w rannu â’r gymuned, ieir neu egin-goed oren. Yn ogystal â gwella eu diet, bydd plant amddifad hŷn yn gallu gwerthu unrhyw beth sydd dros ben i dalu eu ffioedd ysgol uwchradd ac am hanfodion eraill, fydd yn rhoi sicrwydd iddynt ynghyd â sgiliau at eu dyfodol.
Mae llawer i’w wneud o hyd: “Rydyn ni nawr yn barod i ehangu’n gweithgareddau ym Maldwyn a Dwyrain Uganda – creu cysylltiadau ag ysgolion, clybiau ffermwyr ifanc a sefydliadau ffermio,” dywed Val.
Caiff cyllid ar gyfer y prosiectau ei godi’n lleol yn ardal Croesoswallt a Llanfyllin drwy foreau coffi, sgyrsiau a chatalog Nadolig sy’n cynnwys eitemau fel noddi gafr. Y catalog yw menter codi arian fwyaf llwyddiannus Dolen Ffermio. Llynedd cododd y swm rhyfeddol o £7,300 gan bobl leol yn unig, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn ddramatig o’r prosiect geifr a chynyddu aelodaeth. “Mae pobl mor hael,” gwena Richard.
“Dros y rhan fwyaf o’r 13 blynedd diwethaf, mae ein gwaith wedi bod un ffordd, ond erbyn hyn mae’r arian gennym ni i ddod â phobl yma a threfnu cyfnewid athrawon, er enghraifft – dyna’n prosiect diweddaraf. Gallwn ddangos y buddion; gall pobl yng Nghymru weld yn uniongyrchol sut mae pobl yn Affrica wedi cael eu heffeithio.”
Gellir gweld catalog eleni a chael rhagor o wybodaeth ar y wefan: www.dolen-ffermio.org.uk.
Blaenorol: Y Dref Fasnach Deg Gyntaf yng Nghymru
Nesaf: Ubuntu!