Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Eisteddfod 2010
Ym mis Awst, aethom â’n harddangosfa ffotograffig o Arwyr Gwyrdd Cymru i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent.
Roedd yr arddangosfa yn boblogaidd gyda’r Eisteddfodwyr, gyda nifer ohonynt yn galw fewn ar eu ffordd o amgylch y Maes i weld y ffotograffau.

Hefyd roedd gennym ein cystadleuaeth 'Rhowch Eich Newid Mân,' ac roedd nifer o bobl wedi gwneud addewidion i wneud newid bach yn eu bywydau i helpu’r blaned. Dyma rai ohonynt:
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Eisteddfod 2009
Yn 2009 aethom â’n cartref cynaliadwy i Eisteddfod y Bala, Gwynedd. Roedd y stondin yn llawn tipiau i helpu pobl i fyw’n fwy cynaliadwy, ac wedi ei addurno gyda dodrefn wedi’i ailgylchu, nwyddau moesegol, diodydd a grawnfwydydd masnach deg a glanhawyr naturiol.

Roedd gennym raglen o weithdai cyson, oedd yn golygu y gallai pobl galw mewn pan roeddynt yn dewis ar gyfer sgwrs a phaned. Seliwyd y gweithdai ar dipiau i helpu pobl i fyw’n fwy cynaliadwy adref - ymysg rhain roedd cyngor ar drwsio dillad, compostio cartref a sut i gynllunio ymgyrch.
Yn ystod Eisteddfod y Bala gwnaethom hefyd redeg ein cystadleuaeth, ‘Rhowch Eich Newid Mân,’ ac roeddem yn gofyn i bobl gwneud llw i helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd. Roedd llw Carrie John wedi gwneud argraff ar y barnwyr, a hithau enillodd yr Hwrdd Siglo Ddu Gymreig a roddwyd yn garedig gan y Rocking Sheep Company.
Lawrlwythwch "Cymru yn 2050: Golwg o'r Dyfodol"
Trafodaeth gan Morgan Parry
Eisteddfod 2008
Roedd Cynnal Cymru-Sustain Wales yn eu cartref cynaliadwy ar faes yr Eisteddfod i ddangos pa mor rhwydd gall hi fod i fyw'n gynaliadwy, gyda chyngor 'gwyrdd' a moesegol. Diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Ecotricity, Draig Technology, Ecover, Innocent Smoothies a llu o noddwyr eraill roedd y stondin yn gwmws fel cartref go iawn - gyda gardd a phob dim!
Wedi ei adeiladu o bren FSC, roedd yn arddangos nodweddion megis insiwleiddio ac roedd y tu fewn yn llawn syniadau ysbrydoledig i'ch helpu i wneud dewisiadau cynaliadwy o fasnach deg ac organig i gyngor arbed ynni a dŵr.
Lansiwyd y gystadleuaeth, 'Rowch Eich Newid Mân' yn ystod yr Eisteddfod, a gwnaeth un enillydd lwcus ennill blwyddyn o ynni 'gwyrdd'. Gyda gwesteion i de, cerddoriaeth, a gweithdai ymarferol roedd digon i’w wneud ac nid oedd angen cadw lle o flaen llaw.