Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Yn ol a ffilm newid hinsawdd »
Mae pawb yn cwyno am y siwrne ysgol a’i heffaith ar draffig lleol: y llygredd, y tagfeydd a’r parcio ofnadwy. Heb drafnidiaeth cyhoeddus na llwybr cerdded uniongyrchol rhyngddynt, i blant Ynysybwl a Chilfynydd, yr unig ffordd o deithio i’r ysgolion cynradd mewn un pentref a’r ysgol uwchradd yn y llall oedd ar hyd y ffordd gydad ond tair milltir yn gwahanu’r ddau bentre. Hynny oedd nes i Sustrans, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy awgrymu llwybr beiciau i gysylltu’r ddau bentref.
Dafydd Thomas yw Rheolwr Rhaglen Teithio Sustrans Cymru. ‘Mae Sustrans wedi bod yn adeiladu rhwydwaith feicio genedlaethol ar hyd y DU, roedd hwn yn gfyle i ni ymuno'r llwybr gyda hwnnw. Yn bwysicach na hynny, roedd hwn yn gyfle i ni weithio gyda chymuned leol a darparu thywbeth yr oeddynt ei eisiau a'i hangen. roedd Systrans yn teimlo'n gryf am hyn. Fel y gwelach chi, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn.'
Mae Marianne Jones yn Sefydlwr Aelod ac yn Gyfarwyddwr ar Bartneriaeth Adfywio Ynysybwl. ‘Pan glywodd Sustrans am Barnteriaeth Adfywio Ynysywbl, cefais i alwad ffon yn gofyn os byddai ganddom ddiddordeb, fel cymuned, datblygu llwybr beicio yma. Cawsom gyfarfod fel Bwrdd y Bartneriaeth, sy'n cynrychioli'r gymuned, a roedd ymateb brwd i'r syniad.
‘Roedd yr Awdurdod lleol yn rhan oherwydd cynllunio. Roedd Cynulliad Cymru yn rhan oherwydd cyllid. Roedd yn ymdrech pedwarplyg i ddweud y gwir. Roedd yn brosiect i'r gymuned gyfan.’
Eglura Dafydd ‘Unwaith mae cynnig am lwybr beicio yn derbyn y golau gwyrdd, mae wedyn yn broses cymhleth o glymu darnau o dir a'i gilydd, cesiso cael cefnogaeth pawb: ffermwyr, tirfeddiannwyr, ac yna mae'n cwestiwn o ddod a chyllid i mewn yna dod a'r cyfarfpar i mewn ac yna'i hadeiladu. mae'n ddigon syml o hynny 'mlaen. Ond yn y cefndir mae llawer o drafodaeth yn mynd yn ei flaen, mae'n cymryd amser. Ond yn y diwedd mae'nwerth y byd.'
Does dim amau'r effaith gadarnhaol mae'r llwybr wedi ei gael ar y pentref. Fel eglurai Marianne
'Mae'n galluogi pawb i adael amgylchedd gaeedig y pentref. Mae'n eu galluogi i gerdded, gweld y gwyrddwch, ei deimlo a bod yn eiddo arno. I'w wneud yn rhan ohonynt. Mae plant wedi ailddarganfod eu bod yn medru chwarae a rhedeg yn ddidrafferth. Mae'n mynd yr holl ffordd o Ynysybwl i Gilfynydd; medrwch feicio, gerdded a mae pobl ar sgwteri anabledd yn ei ddefnyddio. Mae cerddwyr yn ei ddefnyddio, y ganolfan weithgareddau allanol leol, mae doctoriaid teulu yn awgrymu i'w cleifion ei ddefnyddio ar ol problemau ar y galon neu stroc.'
Ond mae'r manteision yn fwy na hyn. 'Mae wedi cael effaith ar newid hinsoddol gan ei fod wedi tynnu pobl allan o'u ceir. mae wedi gostwng allyriadau carbon y pentref. Mae'r seilwaith yn un clos iawn - un ffordd i mewn ac un ffordd allan. Mae tynnu un car oddi ar y ffordd yn gwneud gwahaniaeth i'r pentref hwn.'
Ac mae Dafydd yn gytun ‘Beth sydd angen i ni wneud yw uchafu'r potensial yma, gan fod hanner y teithiau rydym yn eu gwneud yn y car yn llai na phum milltir, gall bobl gerdded neu feicio. Ac os oes ganddynt rhywbeth fel hyn, beth sy'n eu stopi nhw? Gyda 13% o allyriadau carbon deuocsid yn dod o drafnidiaeth, os bydd pobl yn dewis gerdded neu feicio gallwn gael effaith mawr ar newid hinsawdd.
‘Rwy'n credu iddo fod yn lwyddiant oherwydd ymrywmiad y gymuned. Nhw oedd eisiau'r llwybr, sy'n berchen arno ac yn ei ddefnyddio. Dyna lwyddiant y llwybr. Dyna pham rydym ni ei eisiau ac am iddo fynd ymhellach, rydym am orffen y rhan nesaf mor fuan a phosivb. Bydd yn mynd yr holl ffordd i dafarn yr Old Bull. Bydd gan bawb le i orffwys wedyn!'