»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Ffilm newid hinsawdd: Taclo newid hinsawdd gyda'n gilydd

Newid hinsawdd yw’r her fwyaf i ddynoliaeth ei wynebu.

Rydym wedi gwneud ffilm i’ch dangos sut mae pobl ar draws Cymru yn mynd i’r afael â’r broblem ac i’ch ysbrydoli i ymuno a hwy i weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Ei enw yw Taclo Newid Hinsawdd Gyda'n Gilydd.

 

Byr o amser?

Gwyliwch y fersiwn fer o'r ffilm (7 munud)


Darllenwch amdano

Darllenwch beth ddywedodd y bobl yn y ffilm amdan eu prosiectau a'i heffaith ar newid hinsawdd:

Syr John Houghton

WI EcoTimau

Ynni Adnewyddol Cymunedol Bro Ddyfi

Marchnad Glan yr Afon

Asiantaeth Ynni Sir Gâr

Bartneriaeth Adfywio Ynysybwl


Dysgwch fwy

Dysgwch fwy am y bobl ar sefydiadau sy'n ymddangos yn y ffilm drwy ddarllen yr adran cynaladwyedd ar waith neu ymweld a gwefan newid hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Lawrlwythwch y ffilm

Rydym wedi ceisio isafu effaith cynhyrchu a darparu'r ffilm hon wrth ei roi arlein. Os hoffech ddangos y ffilm i bobl eraill, neu gadw copi i wylio rhywbryd eto, medrwch ei lawrlwytho o'r wefan hon.

Dylai lawrlwytho cymryd tua 10 munud, yn dibynnu ar gyflymdra eich cysylltiad i'r we.

Lawrlwythwch y ffilm (fersiwn hir)

Lawrlwythwch y ffilm (fersiwn fer)


Mae'r fersiynau hyn o'r ffilm wedi'u cywasgu ar gyfer y we, felly ni fydd yr ansawdd mor dda â DVD go iawn. Os hoffech fersiwn o'r DVD heb ei gywasgu (o ansawdd uchel), yna ebostiwch info@cynnalcymru.com, gyda'ch enw a chyfeiriad, ac fe rown ni gopi yn y post i chi.