Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Yn yr adran hon o’r wefan cewch wybodaeth am ein hymgyrchoedd a phrosiectau cyfoes.
Ffyrdd o Fyw Newydd ar gyfer Cymru Un Blaned Prosiect i gefnogi gwaith ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi datblygiad cynaliadwy yng Nghymru drwy gyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd ar sut i hyrwyddo'r newid ymddygiad a dewisiadau ffyrdd o fyw sydd eu hangen i gyflawni Cymru gynaliadwy. |
|
Rhestr Werdd Cymru Mae 52 o bencampwyr datblygu cynaliadwy wedi eu henwi ar Restr Werdd flynyddol gyntaf Cymru. Mae’r arwyr gwyrdd yn dod o Gymru benbaladr ac maent wedi eu cydnabod am gymryd camau i greu dyfodol mwy disglair i Gymru. |
|
Eco Worriers - Ffilm Pen y Ffordd Fel swyddog datblygu Cynnal Cymru-Sustain Wales, rwy wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau cymunedol sy’n ceisio datblygu ffordd fwy cynaliadwy o fyw yn rhai o’r ardaloedd o amddifadedd economaidd mwyaf yng Nghymru. Pryd bynnag rwy’n cwrdd â phobl newydd, rwy bob amser yn gofyn iddyn nhw beth yw’r ffordd orau, yn eu barn nhw, o ennyn diddordeb pobl mewn materion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy. Yr un ateb rwy’n ei gael bob tro; “dangosa bobl fel ni yn ei wneud… a gwna hynny mewn ffordd ddigri!” |
|
Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant Ledled Cymru mae pobl ysbrydolgar yn mynd i’r afael â thlodi byd-eang gan elwa o brofiadau newydd sy’n cyfoethogi’u bywydau. Mae Cymru o blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant yn amlygu’r prosiectau sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru gydag Affrica Is Sahara. Mae’r hanesion personol yma’n dangos effaith ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â thlodi. |
|
|
Trwy gydol misoedd yr haf gwnaethom gynorthwyo pobl i ddarganfod mwy am fyw'n gynaliadwy gan eu hannog i gymryd llw i fynd i'r afael â newid hinsawdd gyda'n hymgyrch, 'Rhowch Eich Newid Mân'. |
|
Yn 2008 roeddem yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar brosiect cyffrous iawn - ffilm ar newid hinsawdd a'r bobl ysbrydoledig sydd yn gweithio gyda'i gilydd i daclo'r broblem. Pecyn Gweithredu yn y Gymuned.
|
|
Yn ystod haf 2007 cynhalion ni arolwg peilot i ddarganfod pa mor hawdd (neu anodd) yw hi i fyw'n gynaliadwy yng Nghymru.
|