Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod

Mae golygfeydd a seiniau Cymru i fod yn flaenllaw yn un o wyliau mawr yr Unol Daleithiau’r haf yma ac mae’n gyffrous i ni yma yn Cynnal Cymru - Sustain Wales.
Ar 22ain o Fehefin, byddwn yn mynd i Ŵyl Werin y Smithsonian yn Washington D.C. am bythefnos! Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o nifer o’r prosiectau gwych ar arloesol sy’n digwydd yng Nghymru drwy arddangosfa ffotograffig a darlith Convergence on Zero yn amgueddfa’r Smithsonian Museum of Natural History gyda’r Ganolfan Dechnoleg Amgen (GDA).
Mae’r Gŵyl Werin y Smithsonianyn ŵyl flynyddol, ddiwylliannol a redwyd gan y Smithsonian Center for Folklife and Cultural Heritage, uned ymchwil ac addysg o’r Smithsonian Institution.
Eleni, Cymru fydd y genedl nodwedd yn yr ŵyl, sy’n digwydd yn flynyddol ar y National Mall yn Washington, am 10 diwrnod ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf.
Prif thema rhaglen Cymru yn y digwyddiad bydd cynaladwyedd. Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys y GDA a Cynnal Cymru – Sustain Wales, wedi cael eu gwahodd i Washington i ddangos ymrwymiad i gynaladwyedd ac i rannu ymarfer gorau.
Mae cael gwahoddiad i fod yn genedl gwadd yn y Gŵyl Werin y Smithsonianyn 2009 yn dod a chyfleoedd i greu cysylltiadau a phartneriaethau rhwng Cymru a Washington DC ar draws pob sector ac i godi proffil Cymru fel arweinydd ar gynaladwyedd.
Bydd rhaglen yr Ŵyl yn tynnu ar amrywiaeth bywyd diwylliannol Cymru, o gryfder traddodiadau angerddol i’r technolegau arloesol newydd. Bydd dros gant o ymarferwyr, perfformwyr a chyflwynwyr o Gymru’n cymryd rhan yn yr ŵyl. Am wybodaeth bellach, ymwelwch â: www.wales.com/smithsonian.
Rhestr Werdd Cymru
Mae Cynnal Cymru wedi bod yn brysur yn cyfuno arddangosfa ffotograffig o bencampwyr cynaladwyedd Cymreig i’w fynd â hi i Ŵyl Werin y Smithsonian yn Washington D.C. Mae’r rhestr yn cynnwys pobl ysbrydolgar o grwpiau cymunedol, busnes, gwleidyddiaeth, addysg ac academia!
Pan rydym yn dychwelyd o Washington, bydd yr arddangosfa ffotograffig yn teithio o amgylch Cymru. Byddwn hefyd yn casglu Rhestr Werdd o 52 o arweinwyr o bob sector o gymdeithas.
Cyhoeddir y 52 Werdd yn ddiweddarach eleni a chaiff ei chyhoeddi yn y wasg ac ar-lein. Cadwch lygad ar ein gwefan i weld os mae prosiect rydych yn ei adnabod yn cael ei nodweddi ac i ddarganfod pryd bydd yr arddangosfa’n dod i leoliad agos atoch chi!