Mae Rhestr Werdd Cymru yn dod â gwahanol elfennau datblygu cynaliadwy ynghyd – amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol – mewn un wobr drwy gydnabod y gwahanol bobl sy’n cymryd camau gweithredu ar ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Mae’n cynrychioli lled y gwaith da a wneir gan ystod amrywiol o bobl, o brif weithredwyr mewn cwmnïau preifat, rheolwyr cyfarwyddwyr busnesau bach a chanolig, gwleidyddion, rhieni, ymgyrchwyr, beirdd, cerddorion a llawer mwy.
Mae’r prosiect hwn yn ffurfio rhan o nod ehangach Cynnal Cymru i gydweithio gyda’i rwydweithiau er mwyn sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o ddatblygu cynaliadwy ac arweinyddiaeth arno.
Drwy gydol y prosiect, mae rhwydweithiau traws-sector amlddisgyblaeth Cynnal Cymru yn darparu gwerth ychwanegol i brosiectau sy’n galluogi camau gweithredu ar ddatblygu cynaliadwy.
Yn ystod 2011-2012, cafodd Rhestr Werdd Cymru ei datblygu ymhellach er mwyn cynyddu ei heffaith. Bydd y cynllun peilot hwn yn tynnu ar rwydweithiau ehangach Cynnal Cymru er mwyn rhannu sgiliau allweddol ac arbenigedd gyda grŵp bach o Arwyr Gwyrdd. Y nod fydd cynyddu cyflwyniad prosiectau arloesol.

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru