Mae Partneriaid Rhwydwaith yn sefydliadau sydd wedi ymrwymo i egwyddorion datblygu cynaliadwy ac sydd drwy Cynnal Cymru-Sustain Wales am fod yn rhan o rwydwaith ehangach o bobl ar hyd a lled Cymru sy’n gweithio i sicrhau newid.
Mae'r Partneriaid Rhwydwaith i gyd hefyd yn aelodau sefydliad o Cynnal Cymru. Mae aelodaeth sefydliad yn gategori ehangach, sy'n agored i sefydliadau sydd am dderbyn gwybodaeth ar ddatblygiad cynaliadwy ac arfer orau yng Nghymru.
Yn 2010, lansiodd Llywodraeth Cymru y Siarter Datblygu Cynaliadwy. Mae nifer o sefydliadau wedi llofnodi’r Siarter hon; anogwyd holl Bartneriaid Rhwydwaith Cynnal Cymru i lofnodi ac mae llawer wedi gwneud hynny.
Mae Cynnal Cymru yn cefnogi’r Siarter, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, newyddion a fforwm i gyfnewid syniadau.
Rydym yn gweithio gyda’r Comisiynydd dros Ddyfodol Cynaliadwy a Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd rheolaidd i’r rhwydwaith gyfarfod, rhannu profiadau a gwybodaeth ac i ddysgu gan ei gilydd ac ysbrydoli ei gilydd.
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru