Mae archfarchnadoedd, eu cyflenwyr a gweithgynhyrchwyr eisiau osgoi anfon bwyd da i safleoedd tirlenwi neu dreulio anaerobig. Mae’r bwyd yn aml o fewn y dyddiad ac yn addas i’w werthu, ond yn fwyd sydd dros ben neu nid yw’n bodloni’r fanyleb mewn rhyw fodd.
Mae FareShare Cymru yn cynnig ateb cynaliadwy - gellir rhoddi bwyd i FareShare Cymru sy’n ei ailddosbarthu i aelodau o’r gymuned fwyd sy’n bwydo pobl mewn angen. Mae’r rhain yn cynnwys hostelau i’r digartref, cymdeithasau tai, noddfeydd mewn argyfwng, banciau bwyd a chlybiau brecwast ysgolion. Mae storfa FareShare Cymru yng Nghaerdydd yn gwasanaethu elusennau yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac mae un arall yng Nghyffordd Llandudno yn gweithio gyda’r rheiny ar hyd arfordir Gogledd Cymru.
Mae storfeydd FareShare yn cael eu gweithredu gan wirfoddolwyr, yn aml, cyfeiriadau o aelodau’r gymuned fwyd a phobl mewn angen eu hunain. Yn ogystal â gwneud rhywbeth sy’n werth chweil, maen nhw’n ennill profiad a chymwysterau a all eu helpu yn ôl i fyd gwaith.
Sonnir am FareShare Cymru fel rhan o’r ateb yn strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff.’ Cynorthwyodd Llywodraeth Cymru i brynu storfa Caerdydd, a bydd John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn ei hagor yn ffurfiol ar 23 Ionawr 2012.
Cysylltwch ag info@faresharecymru.org.uk. Gwyliwch http://vimeo.com/19714705, dilynwch @faresharecymru neu hoffwch www.facebook.com/faresharecymru
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru