Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd yn peri i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cysylltiedig.

Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru rydym i gyd eisiau byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.

Er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod er llesiant ar waith.

future-generations-goals-CYM

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a Ffyrdd o Weithio

Mae’r Ddeddf yn rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith, sy’n dweud wrth sefydliadau sut i fynd ati i wireddu eu dyletswydd o dan y Ddeddf.

Mae gwneud rhywbeth  “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod rhaid i’r corff weithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau y bodlonir anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.

Mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau, wrth wneud eu penderfyniadau, eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae pum peth y mae angen i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt er mwyn dangos eu bod wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd dilyn y dulliau gweithio hyn yn ein helpu i weithio gyda’n gilydd yn well, i osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol ac i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor rydym yn eu wynebu.

Pam mae angen y gyfraith hon arnom?

Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau yn awr ac yn y dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghyfartaledd iechyd a swyddi a thwf. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd. Er mwyn rhoi ansawdd bywyd da i’n plant a’n hwyrion, mae angen i ni feddwl am sut y bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn effeithio arnynt. Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus yn gwneud hyn.

 

Pa gyrff cyhoeddus mae’r Ddeddf yn eu cynnwys?

  • Gweinidogion Cymru
  • Awdurdodau Lleol (Ynys Môn, Blaenau Gwent, Pen-y- bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir
  • Fynwy, Castell Nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam)
  • Byrddau Iechyd Lleol (Abertawe Bro Morganwg (ABMU), Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf, Caerdydd a’r Fro, Hywel Dda, Powys)
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Awdurdodau Parc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Awdurdod Penfro, Eryri)
  • Awdurdodau Tân ac Achub (Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

I gael crynodeb o’r Ddeddf, gweler copi o’r llyfryn ‘Yr Hanfodion‘.

Gallwch ddysgu mwy am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Mae copi o Ddeddf Llesiant Cenelaethau’r Dyfodol (Cymru) ar wefan deddfwriaeth y Llywodraeth.