
(English) Living Wage Buildings to Create Well-paid Job Opportunities
Sorry, this entry is only available in Saesneg America.
Sorry, this entry is only available in Saesneg America.
Sorry, this entry is only available in Saesneg America.
Sorry, this entry is only available in Saesneg America.
Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru. Fyddech chi’n addas ar gyfer y swydd? Ydych chi’n rhywun sy’n poeni am ddyfodol a phobl Cymru? Ydych chi’n arweinydd eithriadol? Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o fanylion.
Yn dilyn sesiwn hynod lwyddiannus gyda Chriced Morgannwg yn ddiweddar, mae gennym ragor o hyfforddiant pwrpasol wedi ei drefnu drwy gydol Ebrill a Mai yn ogystal â lansiad cwrs Arweinyddiaeth Busnes ar gyfer Datblygu Cynaliadwy wedi ei achredu gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’r cwrs yn cychwyn yr wythnos hon a bydd hefyd yn cael ei […]
Eich Aelodaeth
Wrth ddod yn aelod o Gynnal Cymru – Sustain Wales, rydych yn cytuno i gymryd aelodaeth o’ch dewis eich hun am o leiaf blwyddyn. Gallwch ddewis naill ai taliad blynyddol unigol neu daliadau misol parhaus.
Taliad Blynyddol – Byddwn yn ysgrifennu atoch yn fuan cyn diwedd eich blwyddyn aelodaeth a rhoddir cyfle i chi adnewyddu eich aelodaeth ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
Taliadau Misol Parhaus – Byddwn yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i’ch taliad misol gan roi’r dewis i chi naill ai ddileu neu barhau eich taliad. Mae gennych yr hawl i ddileu eich taliad misol ar unrhyw adeg yn dilyn cyfnod 12 mis eich blwyddyn aelodaeth.
Eich Ffi Aelodaeth
Mae eich ffi aelodaeth yn daladwy mewn rhandaliadau misol neu flynyddol. Bydd symiau eich rhandaliadau a’r dyddiadau y byddant yn dod yn daladwy yn cael eu nodi yn yr atodlen dalu y byddwn yn ei hanfon atoch fel rhan o’ch llythyr croesawu neu adnewyddu aelodaeth.
Trafferth o ran talu eich ffi aelodaeth?
Os nad ydych yn gallu talu unrhyw randaliad sy’n ddyledus i Cynnal Cymru o fewn saith diwrnod i’r dyddiad a nodir yn yr atodlen dalu, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi cyfle i chi naill ai dalu’r rhandaliad, neu dalu pob rhandaliad sy’n ddyledus am weddill eich blwyddyn aelodaeth, drwy ddulliau amgen.
Os na fyddwch wedyn yn gallu talu’r swm perthnasol erbyn y dyddiad gofynnol, byddwn yn ysgrifennu atoch eto i ofyn i chi dalu pob rhandaliad sy’n ddyledus ar gyfer gweddill eich blwyddyn aelodaeth.
Yn anffodus, os na fyddwch yn gallu talu’r swm hwn erbyn y dyddiad gofynnol, bydd eich aelodaeth Cynnal Cymru yn dod i ben ar unwaith.
Dalier sylw na fydd y darpariaethau hyn yn berthnasol os byddwch yn methu â thalu oherwydd camgymeriad gan fanc neu gan Cynnal Cymru.