
Arolwg: dywed bron dau draean o bobl y dylai llywodraeth cymru fuddsoddi mwy mewn effeithiolrwydd ynni a gwneud cymru’n 100% adnewyddadwy
100 diwrnod ers ffurfio Llywodraeth newydd Cymru, mae arolwg a gynhaliwyd ar ran WWF Cymru yn dangos bod bron dau draean o bobl eisiau i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi.
Canfu’r arolwg hefyd fod bron yr un nifer o bobl eisiau i holl drydan Cymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyhoeddi ei Raglen Lywodraethu yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae’n debyg y bydd yn canolbwyntio ar sut y bydd Cymru’n ymaddasu i Brexit.
Mae WWF yn galw ar y Llywodraeth i beidio â diystyru buddsoddi mewn lleihau allyriadau a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Yn ôl y sefydliad cadwraethol, un o’r ffyrdd gorau o leihau allyriadau a chreu swyddi fyddai rhoi ar waith rhaglen effeithlonrwydd ynni fwy o faint i gartrefi.
Canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a gynhaliwyd ar ran WWF Cymru yn 2015 fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion ym maes effeithiolrwydd ynni cartrefi er mwyn cyrraedd ei thargedau ei hun o ran lleihau allyriadau.
Mae’r sefydliad hefyd yn dweud, er mwyn i Gymru fod yn wlad fodern, carbon isel, y dylai’r rhan fwyaf o’i hynni ddod o ffynonellau adnewyddadwy.
Canfu’r arolwg o 1,000 o bobl fod:
- 65% o bobl eisiau i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi ledled Cymru er mwyn lleihau allyriadau a sicrhau nad oes neb yn byw mewn cartref sy’n anodd ei wresogi.
- 64% o bobl eisiau i Gymru gynhyrchu ei holl drydan o ffynonellau adnewyddadwy.
- 62% o bobl eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu pobl i wresogi eu cartrefi gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.
- 59% o bobl eisiau i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn prosiectau sy’n lleihau allyriadau, fel trafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau gwres fforddiadwy, er mwyn creu Cymru garbon isel.
Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:
“Pan gaiff Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru ei chyhoeddi y mis nesaf, rydyn ni’n disgwyl iddi gynnwys ymrwymiad cadarn i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
“Trwy fuddsoddi yn awr mewn sicrhau bod ein cartrefi’n addas at y dyfodol, gallwn hybu’r economi trwy greu swyddi a gwastraffu llai o ynni, ac ar yr un pryd lleihau allyriadau.
“Gall Cymru arwain y ffordd trwy fod yn genedl flaengar, glyfar a chynaliadwy, ac mae’n glir o’r arolwg hwn bod y cyhoedd eisiau i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn.”
Ychwanegodd Shea Jones, Cydlynydd Prosiect y Sefydliad Materion Cymreig, ‘Re-Energising Wales’:
“Mae’n bwysig eithriadol cael cefnogaeth gref gan y cyhoedd i gynhyrchu’r ynni a ddefnyddiwn o ffynonellau adnewyddadwy.
“Nid yn unig mae eisiau’r gefnogaeth honno i newid i system ynni carbon isel o ffynonellau adnewyddadwy, mae hefyd ei hangen er mwyn cyrraedd ein targedau heriol o ran y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â diogelu ein ffynonellau ynni yn y dyfodol, a chruglwyth o fuddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eraill.
“Yn ddiweddar mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi dechrau prosiect tair blynedd i ddatblygu strategaeth ynni hirdymor ymarferol i Gymru, a fydd yn ymchwilio’n fanwl i faint o ynni y bydd Cymru ei angen yn y dyfodol, a sut y gall ynni adnewyddadwy ddiwallu’r angen hwnnw erbyn 2035.”