Pam Mae Mudo yn Sgil Newid yn yr Hinsawdd yn Bwysig i Gymru

Pam Mae Mudo yn Sgil Newid yn yr Hinsawdd yn Bwysig i Gymru

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn gwneud rhai ardaloedd yn llai addas i bobl fyw ynddynt. Dyma rai o’r rhesymau pam y dylai dadleoli yn sgil newid yn yr hinsawdd fod o bwys i Gymru, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i liniaru’r effeithiau.

Beth fydd effaith newid yn yr hinsawdd ar oroesiad dynol?

Gall bodau dynol fel rhywogaeth fod yn ddyfeisgar ac yn hyblyg. Mae ein gallu i ddefnyddio technoleg a chydweithredu wedi ein gallu i boblogi rhai o’r llefydd sydd â’r hinsawdd fwyaf garw ledled y byd. Serch hynny, rydym ni gyd yn rhwym wrth drothwyon corfforol o ran tymheredd, ac mae angen bwyd, dŵr, ac aer glân arnom i oroesi. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn bygwth cynaliadwyedd yr adnoddau hanfodol hyn ac mae peryg y bydd yn codi’r tymheredd y tu hwnt i lefelau addas mewn rhai gwledydd neu ranbarthau.

Mae ardaloedd ger y cyhydedd yn enwedig mewn perygl o dymheredd uwch. Mae’n bosib y bydd y tymheredd mewn dinasoedd yn codi’n gynt nag yng nghefn gwlad oherwydd effaith ynys gwres trefol. Yn haf 2003, priodolwyd 70,000 o farwolaethau i wres eithafol ledled Ewrop.

Sea Level Rise

Yn fyd-eang, mae’n bosib hefyd y bydd tymheredd uwch yn arwain at godiad yn lefel y môr, gan fygwth llawer o ynys-wladwriaethau megis Indonesia, y Caribî, a hyd yn oed rannau o’r Deyrnas Unedig. Mae sawl map wedi’u creu i ddangos pa ranbarthau sydd yn y perygl mwyaf yn sgil newidiadau yn sefydlogrwydd yr hinsawdd a llystyfiantdiogelwch y cyflenwad bwyd, a chodiad yn lefel y môr.

Tra mae’n anodd priodoli digwyddiadau tywydd eithafol unigol i newidiadau yn yr hinsawdd, mae tueddiadau cynyddol yn dangos corwyntoedd mwy difrifol, newid mewn patrymau tymhorau gwlyb, a nifer cynyddol o danau gwyllt. Mae ein moroedd hefyd yn dangos arwyddion o newid gyda sawl achos difrifol o wynnu cwrel,newidiadau yn llif moroedd, a phatrymau mudo rhywogaethau morol.

Monsoon
Yn anecdotaidd, mae ffermwyr yn rhannau o Affrica ac Asia eisoes yn adrodd cynaeafau gwael oherwydd glaw afreolaidd; gan gynnwys tymhorau glawogydd hwyr ac yna law trwm iawn neu lai o law na’r cyfartaledd. Gall hyn arwain at gynhaeaf gwael, dirywiad yn y pridd, a marwolaethau da byw.

Gall monsŵn mwy dwys neu lai rhagweladwy hefyd fygwth bywydau pobl yn uniongyrchol; credir bod tymor monsŵn 2017 wedi achosi 1,200 o farwolaethau ac wedi effeithio ar 40 miliwn o bobl ledled India, Bangladesh a Nepal.

Beth fydd effaith newid yn yr hinsawdd ar fudo?

Os na all pobl dyfu bwyd gan fod llifogydd ar eu caeau, neu gael at ddŵr diogel gan fod cronfeydd yn sych, neu ailadeiladu eu pentref gan ei fod dan ddŵr, yna bydd yn rhaid iddynt symud.

Oxfam _East _Africa _-_A_mass _grave _for _children _in _Dadaab
Yn fyd-eang, mae un o bob saith person yn fudwr ac ers 2008, mae cyfartaledd o 22.5 miliwn o bobl y flwyddyn wedi’u dadleoli gan drychinebau cysylltiedig â’r hinsawdd neu’r tywydd. Gall diffyg adnoddau cynaliadwy yn rhanbarthol arwain at fudo mewnol, ac wrth iddi fynd yn anos byw mewn rhagor o ardaloedd mwy bydd hyn yn achosi mudo allanol pellach.

Gall cystadleuaeth dros adnoddau arwain at wrthdaro; mae academyddion wedi dechrau dogfennu’r hyn a elwir yn ‘rhyfeloedd dŵr’. Er enghraifft, mae’r gwrthdaro yn Syria, a’r llif di-baid o bobl sydd wedi gorfod gadael o ganlyniad, wedi’i gysylltu â phrinder dŵr fel un o achosion rhannol y rhyfel cartref. Mae sawl enghraifft arall o wledydd o amgylch y byd sydd â thensiynau neu wrthdaro cysylltiedig â dŵr, gan gynnwys Somalia, Bolifia, a’r Aifft. Mae rhyfel yn cynyddu graddfa a hirhoedledd dadleoli oherwydd bygythiadau amlwg i fywydau pobl a thrwy niweidio adnoddau naturiol ymhellach.

Rhagwelir tensiynau geowleidyddol cynyddol wrth i adnoddau naturiol brinhau o ganlyniad i effeithiau cysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, a all achosi dadleoli a gwrthdaro pellach. Mae’r fideo hwn gan The Climate and Migration Coalition yn egluro’r cysylltiadau rhwng gwrthdaro arfog a newid yn yr hinsawdd.

Pam y dylai hyn fod o bwys i ni yng Nghymru?

Yn gyntaf, mae rhesymau dyngarol amlwg i bryderu ynghylch pobl yn cael eu gorfodi o’u cartrefi a’u rhoi mewn sefyllfaoedd a all fod yn beryglus neu’n galed dros ben. Mae dadleoli gorfodol yn gadael pobl yn agored i glefydau, newyn, a masnachu pobl. Mae gadael eiddo a chymunedau ar eu hôl yn golygu y gall ffoaduriaid ei chael yn anodd ymdopi’n economaidd ac yn gymdeithasol. Ceir effeithiau ehangach yn ogystal ar y ddynolryw yn sgil colli cyfraniadau posib gan bobl sydd wedi’u gorfodi i sefyllfaoedd goroesi.

Yn 2015, dechreuodd lluniau ymddangos o ffoaduriaid o Ogledd Affrica yn boddi wrth groesi i Ewrop. Achosodd hyn fraw mawr i bobl ac arwain at alwadau am fwy o gymorth a lloches, ond er gwaethaf hyn mae o leiaf 8,500 o bobl wedi boddi wrth groesi Môr y Canoldir rhwng 2015 a 2017. Bydd parhau â’r agwedd ‘busnes fel arfer’ wrth ymateb i drychinebau amgylcheddol a chymdeithasol yn cynyddu’r perygl o argyfyngau dyngarol yn y dyfodol yn wyneb newid yn yr hinsawdd.

Refugee MediterraneanA_line _of _Syrian _refugees _crossing _the _border _of _Hungary _and _Austria _on _their _way _to _Germany ._Hungary ,_Central _Europe ,_6_September _2015

Tra mae’n llai tebygol y bydd rhaid i bobl yn y Deyrnas Unedig fudo i rywle arall oherwydd newid yn yr hinsawdd, mae gan y Deyrnas Unedig 14 o diriogaethau tramor o amgylch y byd. Bydd llawer o’r rhain yn wynebu effeithiau sylweddol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn sgil newidiadau hinsoddol megis codiad yn lefel y môr a chynnydd yn y tymheredd.

Er enghraifft, yn 2017 achosodd corwynt Irma ddifrod aruthrol i diriogaethau yn y Caribî; effeithiwyd ar 1.2 miliwn o bobl yn yr ardaloedd hyn, ac mae llawer ohonynt yn dal i fod heb gartref, seilwaith a sefydlogrwydd economaidd. Mae llawer o bobl o ynysoedd megis Puerto Rico wedi mudo i’r Unol Daleithiau oherwydd difrod gan Irma a chorwyntoedd eraill. Ar y pryd, anfonodd y Deyrnas Unedig 40 tunnell o gymorth, tua 1,250 o bersonél milwrol ac addawodd £57 miliwn i ymdrechion darparu cymorth, ond mae’n ansicr a fydd cymorth mwy hirdymor ar gael er mwyn i’r ynysoedd adfer. Wrth i’r Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar faterion eraill megis Brexit, a thorri cymorth ariannol i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd mewn tiriogaethau tramor, efallai fod angen i ni baratoi at ragor o wariant ar gymorth yn sgil trychinebau a mudo uniongyrchol neu anuniongyrchol o’r ardaloedd hyn.

Hurricane IrmaHurricane _Irma _and _Jose _(36429922693)

Heb seilwaith a buddsoddi digonol mewn sectorau megis iechyd, addysg a thai, mae unrhyw gynnydd ychwanegol ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig yn debygol o gynyddu’r straen ar wasanaethau ac adnoddau cyhoeddus. Yn ogystal, mae’n bosib mai ychydig o reolaeth fydd gan fudwyr dros ble maent yn cael eu hadsefydlu a ‘gall fod gofyn iddynt ddelio gyda thâl a gwasanaethau annigonol a newidiadau mewn bywoliaethau, ar ben amhariad ar strwythurau diwylliannol-gymdeithasol, a cholli cysylltiadau a hunaniaeth ddiwylliannol a chysylltiad â’r tir’.

Beth mae Cymru’n ei wneud yn ei gylch?

Lliniaru peryglon newid yn yr hinsawdd yw un o’r ffyrdd pwysicaf o leihau dadleoli rhyngwladol. Mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i Gytundeb Paris sy’n gosod targedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan eu hadolygu bob pum mlynedd. Mae’r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y targedau a osodwyd yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd (y Deyrnas Unedig) 2008. Yng Nghymru, mae gennym hefyd dargedau carbon statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ‘gan gynnwys o leiaf 80% o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050’.

Mae’r Deyrnas Unedig hefyd yn darparu cymorth rhyngwladol a chymorth datblygu i wledydd sy’n agored i beryglon newid yn yr hinsawdd. ‘Caiff bron i 8% o gymorth tramor y Deyrnas Unedig ei wario ar brosiectau cysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd’. Mae’r Deyrnas Unedig yn darparu cymorth drwy ymwreiddio Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys gweithredu ar yr hinsawdd. Mae Cymru wedi ymwreiddio’r Nodau hyn o fewn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Sustainable Development Goals Chart

Tra mae tua 166,843 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y Deyrnas Unedig, nid yw ffoaduriaid sydd wedi ffoi yn sgil yr hinsawdd, yma nac mewn gwledydd eraill, bob amser yn cael yr un hawliau â ffoaduriaid sy’n ffoi rhag gwrthdaro. Rhan o’r broblem yw ei bod yn anodd labelu ‘ffoaduriaid yr hinsawdd’ gan y gall pobl gael eu dadleoli am sawl rheswm cysylltiedig. Tra mae ‘ffoaduriaid’ yn cael statws lloches o dan y gyfraith ryngwladol, caiff pobl sy’n ffoi yn sgil tlodi neu resymau cysylltiedig â’r hinsawdd eu hystyried yn ‘fudwyr’ ac nid ydynt yn cael yr un hawliau. Serch hynny, mae rhai hanesion hapusach wedi bod wrth i gymunedau groesawu ffoaduriaid; darllenwch eu hanesion yma ac yma.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Dysgwch am y newid yn yr hinsawdd a’r ffordd y gallwch leihau’ch effaith eich hun. Gallwch ddechrau drwy ddod yn ‘ Llythrennog o ran Carbon‘ a darllen ein hadnoddau ar ‘ Y Newid yn yr Hinsawdd‘. Mae llawer o adnoddau ar fudo yn sgil yr hinsawdd ar gael gan The Climate and Migration Coalition yn ogystal.

Size Of Wales
Os ydych yn rhan o fudiad cymunedol yng Nghymru beth am ystyried ymgeisio am grant Cymru o Blaid Affrica gan Lywodraeth Cymru? Mae’r grantiau hyn yn rhoi cymorth i brosiectau yng Nghymru ac Affrica o dan y themâu canlynol: y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, iechyd, bywoliaethau cynaliadwy, a dysgu gydol oes. Ymysg y prosiectau a ariannwyd yn y gorffennol y mae prosiect ‘Coed Mbale’, a gynhaliwyd gan Maint Cymru, sydd wedi plannu coed yng Nghymru ac Affrica; gan roi buddion megis storio carbon, lleihau peryglon dŵr, a chynyddu sgiliau a gwybodaeth leol ynglŷn â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Gallwch hefyd gefnogi mudiadau sy’n cefnogi ffoaduriaid a mudwyr neu sy’n gweithio i leihau peryglon y newid yn yr hinsawdd; megis WWF CymruConsortiwm Newid Hinsawdd Cymru, a phrosiectau eraill a restrir yma. Un ffordd o ddangos eich cefnogaeth yw drwy arwyddo’r ddeiseb hon i ofyn i lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr.