Defnyddio Atebion Naturiol

Defnyddio Atebion Naturiol

Mae angen i’r dulliau a ddefnyddiwn i ddiogelu ein seilwaith ac adnoddau addasu i hinsawdd sy’n newid. Mae cyfuno gwybodaeth fodern gydag atebion naturiol a thraddodiadol yn cynnig amrywiaeth o fuddion i bobl a bywyd gwyllt.

 

Pam mae’n bwysig:

Bydd newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd mwy eithafol; gan olygu bod angen gwarchod ein seilwaith, ein hadnoddau a’n pobl rhag stormydd, llifogydd a sychder.

Mae atebion artiffisial yn gofyn am lawer iawn o ddeunyddiau crai ac yn rhyddhau allyriadau wrth gynhyrchu a chodi amddiffynfeydd. Gall atebion ‘peirianneg galed’ hefyd fod yn ddrud ac achosi sgil-effeithiau anfwriadol; er enghraifft, gall codi argaeau i warchod tai ar orlifdir symud y broblem i lawr yr afon.

Tree Flood Defense

Gall seilwaith gwyrdd a glas mewn trefi a dinasoedd, megis coed stryd, pantiau, palmant athraidd, a blychau i ystlumod, gynnig manteision lu i bobl a bywyd gwyllt. Gan gynnwys lleihau perygl llifogydd, gwella ansawdd aer, a chreu amgylcheddau mwy croesawgar gyda chyfleoedd i bobl gymdeithasu.

Gall adfer cynefinoedd at ddefnydd neu gyflwr ecolegol blaenorol fod o fudd i’r ardal leol ac ecosystemau ehangach. Wrth gael gwared â rhywogaethau estron gellir gwella bioamrywiaeth a’r gallu i ymdopi â thywydd eithafol. Gall adfer cynefinoedd megis corsydd yr ucheldir a gwrychoedd leihau perygl llifogydd, storio carbon, hidlo llygryddion, a chreu cynefinoedd i fywyd gwyllt. Ceir buddion economaidd hefyd yn sgil ecodwristiaeth, a buddion i iechyd a chymdeithas yn sgil cyfleoedd hamdden.

Beaver 2

Gall ail-wylltio neu ailgyflwyno rhywogaethau cynhenidgryfhau ecosystemau. Gall ailgyflwyno rhywogaethau allweddol, fel y blaidd yn yr Unol Daleithiau neu’r afanc ym Mhrydain, greu cyfleoedd i anifeiliaid eraill ffynnu a chyfleoedd i wella cynefinoedd. Gall rhywogaethau allweddol gael yr effaith hon drwy newid dynameg y we fwyd, lleihau pwysau pori ar dirweddau, neu addasu adnoddau naturiol drwy greu cynefinoedd. Mae adfer y cydbwysedd hwn yn cynnig buddion tebyg i adfer cynefinoedd.

Wrth fynd yn ôl at ffyrdd mwy traddodiadol o ffermio a rheoli tir, gan ddefnyddio systemau cnydau cymysg, pori tymhorol, a phlannu coed a bondocio er enghraifft, gellir cryfhau ecosystemau drwy greu cynefinoedd amrywiol sy’n cefnogi pryfed peillio. Gall ecosystemau a gefnogir yn well gynyddu cynaliadwyedd bwyd, lleihau bygythiadau economaidd a chreu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ategol, megis arolygu bywyd gwyllt.

 

Yr hyn y mae’r sector cyhoeddus yn ei wneud:

Y Byd / Ewrop:

I helpu pobl i ddeall sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ffermwyr yn rhyngwladol a sut y gall ffermydd liniaru’r peryglon mae’r FAO wedi creu’r animeiddiad hwn.

Mae’r cynllun Taliad Amaethyddol Cyffredin ar gael i ffermwyr yn yr UE. Tra mae’r cynllun wedi’i feirniadu am bwysleisio cynhyrchu dros gynaliadwyedd, mae camau yn cael eu cymryd i wella gwerth amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd y cynllun.

Y Deyrnas Unedig:

Mae cynllun llywodraeth y Deyrnas Unedig, ‘A Green Future: Our 25 Year Plan to Improve the Environment’, yn cynnwys adrannau ar adfer natur a hybu harddwch tirweddau.

GG-logo 1-01

Cymru:

Grangetown Werddach – mae prosiect Dŵr Cymru wedi defnyddio atebion naturiol megis cael gwared ag arwynebau anathraidd, plannu coed, creu gerddi glaw a phlannu planhigion i ddal, glanhau ac arallgyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i Afon Taf yn lle ei bwmpio 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.

Un o’r tair blaenoriaeth genedlaethol ym ‘Mholisi Adnoddau Naturiol’ Llywodraeth Cymru yw cynnig atebion sy’n seiliedig ar natur.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ‘Brexit a’n tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru’

 

Yr hyn y mae’r trydydd sector yn ei wneud:

Ail-wylltio Prydain: Lleihau perygl llifogydd drwy ail-wylltio – adroddiad sy’n manylu ar ffyrdd naturiol o reoli llifogydd sy’n atgyweirio ac yn adfywio ein hecosystemau diffygiol

Pine Martens

Ymddiriedolaeth Natur Vincent: adfer bele’r coed -prosiect i ailgyflwyno bele’r coed i Gymru sydd o fudd i ecosystemau coetirol iach

Ymddiriedolaethau Natur: ailgyflwyno’r afanc – prosiectau i ailgyflwyno ‘peirianwyr ecosystemau’ byd natur i afonydd ledled Prydain gan helpu i leihau perygl llifogydd a llygredd dŵr

PONT – yn cynnig cyngor i reolwyr tir ar ffyrdd cynaliadwy o reoli porfeydd ac yn cynnal cyfnewidfa wair a gwrtaith

Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy – yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ddatblygu systemau bwyd mewn cytgord â byd natur a phobl

Bog Flowers]

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn: Pumlumon – prosiect sy’n dangos y gall rheoli tir yn briodol, megis ail-wlychu corsydd, adfer gallu byd natur i weithredu fel sbwng naturiol a dalfa garbon

Coed Cadw: Pont Bren – prosiect sydd wedi plannu rhesi o goed ar ffermydd yn yr ucheldir sydd, yn ogystal â rhoi cartref i fywyd gwyllt a lloches i dda byw, wedi cynyddu ymdreiddiad dŵr i’r pridd dros 60 gwaith yn fwy na phorfeydd cyfagos sydd heb resi o goed

RSPB: Llyn Efyrnwy – prosiect ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru a Severn Trent i ofalu am y cynefin hwn. Ymysg y camau a gymerwyd y mae pori rheoledig, cadw pren marw ar lawr y goedwig a thocio bedw sydd wedi’u niweidio

Cadwch Gymru’n Daclus: Y Goedwig Hir – prosiect i ailblannu ac adfer coedwrych yng Nghymru i ddarparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a helpu i warchod cefn gwlad rhag tywydd eithafol

 

Sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth:

Plannu coedcreu pyllau dŵr a gadael lle i fywyd gwyllt – bydd y camau hyn yn helpu byd natur i ofalu am lygredd ac yn cynorthwyo i leihau peryglon tywydd eithafol. Ni waeth pa mor fach, mae yna fel arfer ffyrdd y gallwch gynyddu gallu rhywle i gipio dŵr a charbon. Gweler ein syniadau a’n pecynnau cymorth i drawsnewid ardaloedd a gwneud lle i fyd natur.

Osgoi defnyddio cemegau mewn pethau fel cynhyrchion glanhau a phlastig untro sy’n cronni yn ein moroedd – bydd hyn yn helpu i leihau’r angen am gyfleusterau drud i drin a phuro ein dŵr.

Cefnogi prosiectau adfer ac ail-wylltio neu ddechrau’ch prosiect eich hun gyda grantiau Tyfu’n Wyllt