Bwyd Cynaliadwy

Bwyd Cynaliadwy

Pam mae’n bwysig:

Mae arnom angen bwyd iach a maethlon i fyw ond mae rhai agweddau ar ein systemau bwyd yn rhoi straen anghynaliadwy ar yr amgylchedd. Mae cynhyrchu bwyd yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd yn bennaf wrth ryddhau methan (o dda byw) ac ocsid nitraidd (o wrtaith), nwyon sy’n cynyddu’r ‘effaith tŷ gwydr’.

Mae faint o gig, cynnyrch llaeth, a physgod yr ydym yn ei fwyta ar hyn o bryd yn anghynaliadwy oherwydd yr holl dir, porthiant a dŵr sydd eu hangen ar gyfer da byw, lefelau’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau, a’r straen y mae amaethyddiaeth ddwys yn ei roi ar ein pridd a’n hafonydd.

Food -miles

Mae faint o fwyd a wastraffir wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd – ac yn y cartref – yn peri pryder yn ogystal. Yn y Deyrnas Unedig, rydym yn taflu 7 miliwn tunnell o fwyd a diod o’n cartrefi bob blwyddyn, y rhan fwyaf mewn cyflwr digon da i’w fwyta. Mae hyn nid yn unig yn golled o ran y bwyd ond hefyd y dŵr, yr ynni a’r amser a fuddsoddir wrth dyfu a chludo’r adnoddau hynny.

Mae’n bosib y bydd newid yn yr hinsawdd yn achosi mwy o lifogydd a sychder ac yn cynyddu eu difrifoldeb, sydd yn ei dro yn bygwth y cyflenwad bwyd. Mae’n bosib hefyd y bydd plâu a phryfed peillio yn mudo i ardaloedd mwy cyfanheddol wrth i’r tymheredd godi, gan achosi newidiadau ym mha gnydau sy’n goroesi.

Gall fod angen i ffermwyr a defnyddwyr addasu i dyfu a bwyta bwydydd gwahanol i ymdopi â hinsawdd a thymhorau sy’n newid. Efallai y bydd angen i systemau ffermio dyfu bwydydd gwahanol, cynyddu amrywiaeth y fferm, a/neu dyfu y tu mewn.

Mae ffermio yn gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi; mae llawer o bobl a chymunedau yn dibynnu ar gynhyrchu a chyflenwi bwyd i fyw bywoliaeth gynaliadwy. Bydd angen cefnogi’r rhanddeiliaid hyn i addasu yn ôl yr angen.

Mae gan amaethyddiaeth y potensial i chwarae rhan sy’n cefnogi’r amgylchedd gan y gall glaswelltiroedd a choed ar diroedd ffermydd secwestru carbon a hybu bioamrywiaeth.

 

Yr hyn y mae’r sector cyhoeddus yn ei wneud:

Y Byd / Ewrop:

I helpu pobl i ddeall y ffordd y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ffermwyr yn rhyngwladol a’r ffordd y gall ffermydd leihau’r peryglon mae’r FAO wedi cynhyrchu’r animeiddiad hwn.

Y Deyrnas Unedig:

Mae llywodraeth y DU wedi archwilio effeithiau a chyfleoedd gwastraff bwyd a chydnerthedd amaethyddol.

Bydd Deddf Amaethyddiaeth newydd ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cymru:

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o strategaethau yn ymwneud â bwyd; gan gynnwys ‘Cynllun Gweithredu Tyfu Bwyd yn y Gymuned’ a ‘Strategaeth a pholisi bwyd’

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio adroddiad ar ‘Reoli Tir yng Nghymru ar ôl Brexit’.

 

Yr hyn y mae’r trydydd sector yn ei wneud:

Bwyd Caerdydd – maent yn gweithio gyda phob math o bobl a mudiadau – o ysgolion a bwytai i elusennau lleol a’r Cyngor – gan roi cyngor a chymorth i’w helpu i wneud penderfyniadau deallus ynghylch bwyd.

Canolfan y Dechnoleg Amgen – yn cynnig cyrsiau byr a hyfforddiant ôl-radd mewn bwyd cynaliadwy

Coed Cadw – ‘Rheolaeth Tir Cynaliadwy‘ – adroddiad yn awgrymu camau i’w cynnwys mewn polisi rheoli tir yn gynaliadwy yn unol â dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

FareShare Cymru – maent yn ceisio trechu tlodi bwyd drwy fynd i’r afael â gwastraff bwyd. Mae’n cymryd bwyd bwytadwy dros ben o’r diwydiant bwyd a diod a fyddai fel arall yn cael ei daflu, ac yn ei ailddosbarthu i fudiadau yng Nghymru sy’n bwydo pobl mewn angen.

Food Foundation – Peas Please – y nod yw dod â ffermwyr, manwerthwyr, cadwyni bwyd brys a bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau llywodraethol at ei gilydd gydag amcan cyffredin sef ei gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau. Mae hyn yn ei dro o fudd i iechyd a’r hinsawdd.

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff – ymgyrch sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r angen i leihau gwastraff bwyd a’n helpu ni gyd i weithredu. Mae’n dangos y ffordd y gallwn ni gyd wastraffu llai o fwyd drwy gymryd camau ymarferol, hawdd bob dydd, a fydd yn y pen draw yn arbed arian i ni ac o fudd i’r amgylchedd hefyd.

Maniffesto Bwyd Cymru – nod y maniffesto yw nodi camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i greu system fwyd well.

MSC Good Fish Guide – darganfyddwch ba bysgod a ystyrir yn fwy neu’n llai ‘cynaliadwy’.

Prydain Ddi-garbon – canllaw ar ddyfodol cynaliadwy i bwyd yn y DU

WWF – Eating for 2 Degrees – adroddiad sy’n edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei fwyta rhwng nawr a 2030 i gyflawni ein hymrwymiadau yng Nghytundeb Paris.

Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy – ‘Hidden Cost of UK Food’ – adroddiad yn canfod bod pobl yn y DU yn talu ddwywaith gymaint am fwyd ag y maent yn ei sylweddoli.

 

Sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth:

Ceisiwch fwyta llai o fwydydd carbon uchel megis cig a chynnyrch llaeth drwy fwyta bwydydd sy’n deillio o blanhigion yn eu lle.

Siopwch yn lleol ac yn unol â’r tymor pan fo’n bosib, os oes gennych ardd neu randir ystyriwch dyfu ffrwythau a llysiau a fyddai fel arall angen cael eu mewnforio.

Ceisiwch leihau’ch gwastraff bwyd a chefnogwch brosiectau sy’n ailddosbarthu bwyd.