Cyflwyno: Arianwyr Cyfeillgar Cyflog Byw

Cyflwyno: Arianwyr Cyfeillgar Cyflog Byw

Arianwyr Cyfeillgar

Mae Cynnal Cymru yn gorff achredu Cyflog Byw yng Nghymru ers 2016. Mae’r Sefydliad Cyflog Byw yn gweithio i wella amodau tâl ar draws y sectorau i gyd ond wedi cydnabod problemau penodol o fewn y drydedd sector ac wedi creu Cynllun Gweithredu er mwyn eu hymladd. Mae’r cynllun Arianwyr Cyfeillgar yn gweithio yn unol â’r Cynllun Gweithredu ac wedi cael ei anelu at sefydliadau sy’n gwneud grantiau.

Mae’r sefydliadau hyn yn rhoi arian i elusennau, prosiectau cymunedol neu sefydliadau eraill am gyfnod swyddi a phrosiectau. Mae arianwyr yn gwneud cytundeb gyda’r sefydliad Cyflog Byw i dalu’r Cyflog Byw i bobl sydd yn cael eu cyflogi yn y swyddi arianwyd gan y grant. Maen nhw’n gallu sicrhau’r Cyflog Byw trwy wneud e’n amod o gael yr arian ond mae ‘na opsiynau eraill ar gael. Trwy wneud hynny,  mae Arianwyr Cyfeillgar yn helpu lleihau anghydraddoldebau cyfoeth yn y drydedd sector er mwyn hybu economïau lleol.

Yn eironig, fel arfer mai gweithwyr sydd yn ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb sydd yn wynebu’r anghydraddoldeb o gyflog annigonol am safon byw ddigonol. Mae hwn yn golygu anghenion safonol yn cael eu cyrraedd gyda chydbwysedd bywyd/gwaith ac arian ychwanegol yn eich poced i fwynhau bywyd neu arbed arian am y dyfodol. Yn y bôn, mae’r gwahaniaeth rhwng dod â dau ben llinyn ynghyd a mwynhau bywyd sy’n galluogi llesiant corfforol ac emosiynol.

Yn naturiol, mae elusennau yn gweithredu wrth ystyried eu hamcanion elusennol a moesau ond mae’r pŵer yn perthyn i arianwyr ynglŷn â thâl. Mae’r cynllun Arianwyr Cyfeillgar yn gweithio gan ymgysylltu â’r rhain gyda’r pŵer i ddylanwadu lefelau tâl yn y sector. Ym mis Tachwedd 2017, roedd 30 o noddwyr cyfeillgar yn y DU gyda swm cyfunol o £831 miliwn o grantiau. Mae’r rhif wedi mynd i fyny i 37 erbyn hyn ond dim ond un yng Nghymru; CGGC. Rydyn ni angen gweld mwy o Arianwyr Cyfeillgar yn ymuno â’r gymuned strategaethol o arianwyr moesegol er mwyn gwella amodau tâl am ein gweithwyr elusennol ac i gryfhau economïau Cymreig. Mae materion tâl isel yn bwysicach o hyd yn y cyd-destun Cymreig gyda bron chwarter o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai.

Yn gofyn am gyflog byw yn enwedig o bwysig i fenywod sydd yn 65% o’r gweithlu elusennol, gweithwyr BAMER (Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig neu Ffoadur) (8%), gweithwyr iau a hyn, gweithwyr rhan-amser a’r rhain sy’n gweithio i elusennau gyda llai na 25 gweithwyr (47%).

Os oes eisiau gwybod mwy arnoch neu os ydych chi chwarae rôl yn y cynllun, cysylltu â Bethan ar bethan@cynnalcymru.com neu ffoniwch 02920 431746.

Ffynonellau

Low Pay in the Charity Sector, The Living Wage Foundation

Welsh Government Poverty Statistics

Becoming a Friendly Funder FAQs and Guide