Caerdydd Yw’r Ardal Drefol Fawr Gyntaf Yn Y Du I Fod Yn ‘Ddinas Cyflog Byw

Caerdydd Yw’r Ardal Drefol Fawr Gyntaf Yn Y Du I Fod Yn ‘Ddinas Cyflog Byw

Mae 241,000, neu 1 o bob 5 swydd yng Ngymru, yn dal i dalu llai na’r Cyflog Byw go-iawn, sydd heddiw yn codi i  £9.30 yr awr yma yng Nghymru

 

– Caerdydd yw’r ardal drefol fawr gyntaf yn y DU i ennill statws ‘Dinas Cyflog Byw’ o ganlyniad i bartneriaeth uchegeisiol, 3-blynedd o hyd, rhwng cymunedau, cyflogwyr a Chyngor Caerdydd i ddyblu’r nifer o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig, a chodi miloedd rhagor o weithwyr allan o dlodi mewn gwaith.

– Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi’r Cyflog Byw newydd yng Nghymru, sef £9.30 yr awr, (o £9, cynnydd o 30c yr awr) yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

– Mae cyfradd y Living Wage Foundation wedi’i gyfrifo’n annibynnol i adlewyrchu’r costau byw cynyddol, ac mae’n £1.09 yr awr yn uwch na’r isafswm cyflog (i’r rhai dros 25 oed).

– Mae bron 6,00 o fusnesau yn y DU yn talu, yn wirfoddol, y gyfradd Cyflog Byw go-iawn, ac mae 222 ohonynt a’u pencadlys yma yng Nghymru.

– Ers 2011, mae £32,187,495 o gyflog ychwanegol wedi dod i bocedi gweithwyr yng Nghymru, gan olygu bod bron 7,000 o weithwyr Cymru ar eu hennill.

– Erbyn hyn mae gweithiwr Cyflog Byw yng Nghymru yn ennill cyflog ychwanegol sydd, ar gyfartaledd, dros £2,000 yn uwch nag o’r blaen.

– Rhaid i weithwyr Cymru ennill £9.30 yr awr er mwyn dod i ben â chostau byw, wrth i’r Living Wage Foundation gyhoeddi heddiw ei gyfraddau Cyflog Byw newydd.

 

Bydd gweithiwr sy’n derbyn y Cyflog Byw go-iawn o £9.30 yn ennill cflog ychwanegol o £2,000 o’i gymharu ag isafswm y llywodraeth, sef £8.21 yr awr – mae hyn yn gyfartal â 9 mis o fil bwyd a diod teulu arferol.

Mae cyfraddau Llundain a’r DU yn cynyddu o 20c (1.9 y cant) a 30c (3.3 y cant) yn eu tro, a’r un ffactor mwyaf sy’n esbonio’r rheswm pam fod cyfradd y DU wedi codi’n uwch na chyfradd Llundain yw costau rhentu preifat (sydd wedi cynyddu yn arafach yn Llundain). Hefyd, mae costau gofal plant wedi codi yn gyflymach ar draws y DU o’u cymharu â Llundain.  [2]

Erbyn hyn, mae dros 222 Cyflogwr Cyflog Byw wedi’u lleoli yng Nghymru ac mae’r rhain, o’u gwirfodd, wedi mynd cam ymhellach na Llywodraeth y DU, ac yn talu Cyflog Byw go-iawn; mae’r rhain yn cynnwys Burns Pet Food, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Caerdydd a chyflogwr mawr y sector preifat, sydd newydd ei achredu, Dŵr Cymru Welsh Water. Mae canghennau lu o enwau bob dydd megis Majestic, Lush a Nationwide hefyd yn talu’r gyfradd.

Yn Dundee a Glenrothes, yn gynharach eleni, y sefydlwyd y cysyniad o ‘Lefydd Cyflog Byw’, ond Caerdydd fydd yr ardal drefol fawr gyntaf yn y DU i ennill yr anrhydedd o fod yn Ddinas Cyflog Byw, diolch i’w gynllun uchelgeisiol i godi llawer mwy o weithwyr i safon gwirfoddol, uwch, go-iawn y Cyflog Byw. Lluniwyd y cynllun gan grŵp llywio o dan gadeiryddiaeth Arweinydd Cyngor Caerdydd a sy’n cynnwys uwch gynrychiolwyr y gymdeithas sifil a chyflogwyr lleol, ac erbyn 2022 mae’n anelu at gynyddu’r nifer o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig a leolir yn y brifddinas o 100 i 150, i gynyddu’r nifer o swyddi a amdiffynir gan gyflogwyr Cyflog Byw achrededig i 48,000 (ar hyn o bryd tua 27,250 yw’r cyfanswm) ac annog cyflogwyr eiconig Caerdydd a’r sefydliadau ‘angor’ yng Nghaerdydd i fod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.

Erbyn hyn ar draws y DU mae £1.1 biliwn ychwanegol wedi mynd i bocedi gweithwyr cyflog-isel, ac mae’r wythnos Cyflog Byw hon yn gweld 210,00 o weithwyr yn derbyn codiad cyflog i gyfraddau Cyflog Byw newydd, diolch i bron i 6,000 o gyflogwyr Cyflog Byw go-iawn.

Er gwaetha’r newyddion da, mae ymchwil a wnaethpwyd gan IHG Markit ar ran KPMG wedi dangos maint yr her tlodi mewn gwaith yng Nghymru, gyda 241,000 (neu 21%) o’r holl swyddi yng Nghymru yn talu llai na’r Cyflog Byw go-iawn.

Dyma ddywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Fusnes Caerdydd a Chadeirydd Tîm Arwain Cyflog Byw i Gymru:

“Rydym wrth ein boddau bod Caerdydd wedi ennill statws ‘Dinas Cyflog Byw’ – a diolch i waith caled ac ymroddiad Cyngor Caerdydd a’r tîm o gyflogwyr gan gynnwys, rwy’n falch i ddweud, fy nghyflogwr innau, Prifysgol Caerdydd, sydd wedi heplu i lunio’r cais ‘rydym yn arwain y ffordd. Nid mater o dicio blychau yw bod yn ‘Ddinas Cyflog Byw’ – mae’n golygu gweithredu cynllun i godi miloedd o weithwyr lleol allan o dlodi mewn gwaith dros y tair blynedd nesaf. Ni allwn wneud hyn ar ein pennau’n hunain – felly rwyf am annog unrhyw gyflogwr sydd wedi’i leoli yn y brifddinas i ymuno â ni, i fod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, a’n helpu ni i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw”.

 

A dyma a ddywedodd El Bashir Idris, un o Arweinyddion Citizens Cymru, y mudiad sy’n arwain yr ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru:

“Mae’n hawdd meddwl am Gaerdydd fel lle ffyniannus ond, ar hyd ardaloedd deheuol y ddinas fe ddewch ar draws cymunedau fel fy nghymuned i, sef Butetown, lle y mae bron hanner y plant yn tyfu i fyny mewn tlodi. Mae bobl ifanc fel fi yn cael eu cynghori i astudio’n galed a gweithio’n galed, a byddwn yn dod o hyd i swydd dda – ond mae un o bob pump swydd yng Nghaerdydd yn talu llai na’r Cyflog Byw Go-iawn. Dyna’r rheswm y mae’r strategaeth i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw mor bwysig, a’r rheswm y bydd Citizens Cymru Wales yn trefnu gweithwyr cyflog-isel a’u teuluoedd fel eu bod yn gallu dylanwadu ar y cynllun Dinas Cyflog Byw, a sicrhau ei fod yn codi cyflog y bobl hynny sydd wir ei angen”.

 

Dyma oedd gan Mari Arthur, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru, i’w ddweud:

“Ers bod Cynnal Cymru wedi bod yn rheoli’r broses achredu yng Nghymru ‘rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achredu a, tra ein bod yn dathlu’r cyflogwyr hynny sydd wedi cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae eu cyflogai yn gwneud i’w sefydliadau, mae dal gormod o bobl yn derbyn cyflog tlodi yng Nghymru. Edrychwn ymlaen yr wythnos hon at godi ymwybyddiaeth o werth a buddion y Cyflog Byw Go-iawn, ac ‘rydym am annog pob cyflogwr i ystyried ymuno â’r 222 cyflogwr achrededig Cyflog Byw yng Nghymru”.

 

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru Welsh Water:

“Ein gweithlu ni yw ein hased mwyaf a’n llysgenhadon gorau, felly mae sicrhau eu bod yn derbyn cyflog teg wrth wraidd ein dull dielw – felly, ‘rydym yn falch i gefnogi’r Living Wage Foundation yn ei genhadaeth.

Fel un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ‘rydym am chwarae rhan weithredol, gadarnhaol yn y cymunedau ‘rydym yn eu gwasanaethu – ac mae hyrwyddo arfer gwaith teg yn allweddol os ‘rydym am wireddu hyn. Mae hyn o fudd i’n gweithlu, ac mae hefyd yn helpu ni i wireddu’n gweledigaeth o ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid, a hynny’n feunyddiol”.

 

Dyma oedd gan Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Living Wage Foundation i’w ddweud:

“Bydd y cyfraddau Cyflog Byw newydd a gyhoeddir heddiw yn rhoi hwb i gyflogau miloedd o weithwyr ledled Cymru, ac mae hyn i’w groesawu. ‘Rydym hefyd mor falch o uchelgais Caerdydd i adeiladu dinas Cyflog Byw, a bod Caerdydd yn cynllunio i ddyblu, i bron 50,000, y nifer o weithwyr sy’n derbyn Cyflog Byw go-iawn, gan ryddhau llawer mwy o deuuoedd o fagl cyflog isel. Ein gobaith ni yw y byddwn yn gweld llawer mwy o drefi a dinasoedd yn efelychu’r fenter hon.”