Ffurflen gais ar gyfer Gwobrau Cynnal Cymru 2016
Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen hon i eithaf eich gallu. Byddwn yn sgorio eich cais yn erbyn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol a’r 5 Ffordd o Weithio a ddisgrifir yng Nghanllaw Hanfodion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn yn edrych am dystiolaeth bod eich cais yn cyflawni’n sylweddol o leiaf un nod ac yn ddelfrydol yn cyflawni nifer o fanteision ar draws y 7 nod.
Y ffurflen hon yn unig fydd yn cael ei defnyddio i’ch gosod ymhlith y tri terfynwr ar y rhestr fer yn eich categori. Ni fydd ffurflenni nad ydynt wedi eu cwblhau yn cael eu hystyried.
Os byddwch yn cael problemau i gwblhau’r ffurflen hon os gwelwch yn dda cyfeiriwch at y ddogfen arweiniol sydd ynghlwm.
Rydym yn derbyn ceisiadau yn Saesneg a Chymraeg.
Mae angen i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau Gwener 15 Gorffennaf 2016.
MAE’R DYDDIAD CAU WEDI CAEL EI HYMESTYN I 22 GORFFENNAF
Meini prawf
Os gwelwch yn dda sicrhewch fod gennych yr eitemau canlynol i lwytho i fyny gyda’ch cais:
Eich Stori – Dywedwch eich stori wrthym am eich prosiect neu eich gweithgaredd: rhowch ddarlun cyffredinol i ni. Os gwelwch yn dda cwblhewch gymaint â phosibl o’r adrannau perthnasol isod. (Tua 1000 i 2000 o eiriau).
Unrhyw ddeunydd cefnogol (opsiynol) – delweddau cydraniad uchel a logos.
Rhaid i ddelweddau fod yn 300 DPI ac yn fformat JPEG, GIF neu PNG, ac yn addas ar gyfer eu cyhoeddi. Cânt eu defnyddio yn y seremoni Wobrwyo os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ac efallai gael eu defnyddio ar gyfer marchnata cyfochrog.